Skip to page content

Cyllido addysg uwch cyfrwng Cymraeg

Mae CCAUC yn cyllido darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy ei grant addysgu rheolaidd i sefydliadau addysg uwch a chyllid ar gyfer Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Premiwm Cyfrwng Cymraeg

Mae ein grant addysgu i sefydliadau addysg uwch (SAUau) yn cynnwys premiwm cyfrwng Cymraeg, neu daliad ychwanegol, am gofrestriadau ar gyrsiau neu fodiwlau cyfrwng Cymraeg. Mae’r premiwm yn cydnabod cost ychwanegol cyflwyno darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae CCAUC yn cyllido ar sail credyd, gydag uned o gyllid ar gyfer pob credyd. Mae’r premiwm yn gyfwerth â 34% ychwanegol ar yr uned gyllid ar gyfer pob credyd cymwys.

Yn 2005 comisiynwyd London Economics i ymgymryd ag astudiaeth i gael amcan manylach o’r costau ychwanegol y gellir eu cysylltu â chyflwyno cyrsiau a modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynwyd ei adroddiad terfynol i seminar y sector addysg uwch yng Nghymru ym mis Medi 2006.

Yn dilyn y seminar, ymgynghorom â’r sector ar newidiadau bach i’r trefniadau ar gyfer y premiwm cyfrwng Cymraeg a diwygio ein canllawiau (Cylchlythyr W06/56HE). Cyhoeddom ganlyniadau’r ymgynghoriad a chanllawiau diwygiedig ym mis Medi 2007 (Cylchlythyr W07/36HE). Mae gwybodaeth am ddyraniadau premiwm yn y cylchlythyr dyraniadau grant a gyhoeddir gan CCAUC bob blwyddyn.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn ystod blwyddyn academaidd 2011/12, mae CCAUC yn disgwyl darparu grantiau gwerth cyfanswm o £4.27 miliwn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Defnyddir yr arian hwn ar gyfer staffio canolog ac is-strwythur y Coleg, ond bydd y rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei gyfeirio at ei raglenni a'i weithgareddau i gefnogi'r gwaith o ddatblgyu darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg a chynyddu nifer y myfyrwyr sy'n manteisio ar gyfleoedd cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys prif raglenni'r Coleg fel y cynlluniau ysgoloriaethau i fyfyrwyr, y cynllun staffio academaidd a'r prosiectau datblygu strategol.

Skip to top of page or to page menu