Skip to page content

Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg

Mae’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yn gweithredu o fewn consortiwm sy’n eiddo i’r sector. Mae ganddi rôl allweddol mewn helpu’r sector i weithredu’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol ar gyfer addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae’r Ganolfan yn:
  • cefnogi gwaith y Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg
  • rhoi cyngor i sefydliadau addysg uwch (SAUau) ar ddatblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • gweinyddu cyllid datblygu i gefnogi datblygu cyrsiau, modiwlau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg newydd
  • hwyluso ac yn hybu gweithio ar y cyd yn y sector AU
  • gweinyddu’r cynllun ysgoloriaethau i raddedigion a’r cynllun cymrodoriaethau addysgu cyfrwng Cymraeg

Mae'r Ganolfan yn cefnogi pob SAU yng Nghymru. Ceir ei gyllido gan y CCAUC a drwy danysgrifiadau sefydliadol.

Sefydlwyd y Ganolfan yn 2000 fel yr Uned Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg ond cafodd ei hailenwi i adlewyrchu’r rhan gynyddol amlwg y mae’n ei chwarae mewn helpu’r sector addysg uwch (AU)  i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Skip to top of page or to page menu