Pynciau o bwysigrwydd mwy cyffredinol i Gymru
Mae Pynciau o Bwysigrwydd Mwy Cyffredinol i Gymru yn cyfeirio at bynciau sy’n gofyn am ryw fath o ymyrraeth gefnogol i gynnal y ddarpariaeth bresennol a/neu i gynyddu nifer y myfyrwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae angen ymyrraeth o’r fath naill ai er mwyn mynd i’r afael â bwlch rhwng cyflenwad a galw neu oherwydd bod gan y pwnc bwysigrwydd strategol yng Nghymru a’r DU.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni ystyried pa bynciau sydd o bwysigrwydd mwy cyffredinol a’r mathau o ymyrraeth a fyddai’n bosibl. Mewn ymateb i’r cais hwn rydym wedi nodi tri maes pwnc i fuddsoddi ynddynt:- gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a pheirianneg (STEM)
- ieithoedd tramor modern (ITM)
- astudiaethau Islamaidd
Mae CCAUC wedi cefnogi a datblygu nifer o brosiectau i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â galw myfyrwyr am bynciau ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Mathemateg a Pheirianneg yr ystyrir eu bod o bwys mwy cyffredinol i Gymru. Mae’r meysydd hyn, yn enwedig gwyddoniaeth, yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar gemeg, ffiseg, peirianneg a mathemateg.
Rhwng 2007/08 a 2008/09, gwnaethom fuddsoddi £750,000 mewn pedwar prosiect Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (isod) mewn partneriaeth â'r Sefydliad Ffiseg, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Academi Frenhinol Peirianneg, a'r Sefydliad Mathemateg a'i Gymwysiadau:
Rhagor o Raddedigion Mathemateg
Mae CCAUC bellach yn gysylltiedig â sefydlu a gweithredu Rhaglen STEM Cymru a Lloegr mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE). Gan ganolbwyntio ar Gymru a Lloegr, nodau’r rhaglen yw cynyddu’r niferoedd sy’n graddio o gyrsiau STEM, gyda phwyslais arbennig ar fyfyrwyr o gefndiroedd AU annhraddodiadol, a gwneud cyfraniad o bwys at feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar economïau lleol. Bydd CCAUC yn cyfrannu £1 miliwn tuag at y rhaglen dros gyfnod o dair blynedd o 2009/10.
Yn 2005 comisiynodd CCAUC, mewn ymateb i strategaeth Mae Ieithoedd yn Cyfrif, Llywodraeth Cynulliad Cymru, adolygiad o’r ddarpariaeth ITM yng Nghymru. Canlyniad yr adolygiad oedd creu cronfa ddatblygu fach i alluogi’r sector i ymgymryd â thri phrosiect yn gysylltiedig ag Ieithoedd Tramor Modern. Gan fod y prosiectau wedi’u cwblhau bellach bydd 'Mae Ieithoedd yn Cyfrif' yn cael ei adolygu yn yr Hydref 2009, penderfynodd CCAUC ym mis Hydref 2008 y byddai’n gwneud Ieithoedd Tramor Modern yn Bynciau o Bwysigrwydd Mwy Cyffredinol i Gymru.
Mewn partneriaeth â Chanolfan Bwnc yr Academi Addysg Uwch ar gyfer Ieithoedd ac Ieithyddiaeth ac Astudiaethau Ardal, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Southampton, a CILT Cymru, mae CCAUC yn bwriadu buddsoddi £250,000 y flwyddyn rhwng 2009/10 a 2011/12 yn y rhaglen Llwybrau i Ieithoedd.
O dan y rhaglen hon, mae nifer o gonsortia wedi cael eu sefydlu, y bydd Cymru’n un ohonynt, lle mae grwpiau o brifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd, ysgolion a cholegau i annog ac ysbrydoli pobl ifanc i astudio ieithoedd. Mae’r rhaglen yn Lloegr yn cael ei chyllido ar y cyd gan HEFCE a’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
Ym mis Mehefin 2007 dywedodd Llywodraeth y DU y dylai Astudiaethau Islamaidd yn y DU gael eu cryfhau. Er mwyn hwyluso’r datblygiad hwn, mae CCAUC wedi cytuno i weithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, Cyngor Cyllido’r Alban a’r Academi Addysg Uwch i ddarparu cyllid i greu rhwydwaith o ragoriaeth ar draws y DU. Bydd y rhwydwaith o fudd i sefydliadau yng Nghymru a’r DU sy’n cynnig Astudiaethau Islamaidd yn ogystal ag i staff academaidd mewn pynciau eraill, megis Diwinyddiaeth neu Gymdeithaseg, sydd â diddordeb arbenigol mewn Astudiaethau Islamaidd. Bydd y rhwydwaith yn darparu gwybodaeth am gyrsiau a staff, yn hwyluso digwyddiadau, seminarau a chyfnewid syniadau, ac yn galluogi academyddion i gysylltu â’i gilydd.

