Skip to page content

Cronfa Datblygu Strategol

Cafodd y Gronfa Datblygu Strategol ei sefydlu yn 2005 i gydategu'r Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio.

Pwrpas y Gronfa Datblygu Strategol yw hybu newid strategol drwy gefnogi mentrau cydweithiol, a mentrau o fewn sefydliadau unigol, a fydd yn mynd i’r afael o ddifrif â’r agenda Ymgeisio’n Uwch a blaenoriaethau perthnasol eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru, ond ar lefel is na, neu o natur sy’n wahanol i, honno a fyddai’n briodol ar gyfer y Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio. Dyma enghreifftiau (er nad ydynt yn gynhwysfawr o bell ffordd) o sut y gall y gronfa gael ei defnyddio:

  • datblygu gallu rheoli sy’n cael ei rannu rhwng sefydliadau (ee i ymdrin â materion caffael, adnoddau dynol a chynaliadwyedd)
  • cydweithio ym meysydd addysgu a dysgu, gan gynnwys arloesedd pedagogaidd (ee dysgu wedi’i wella gan dechnoleg)
  • rhesymoli pynciau
  • datblygu gweithgareddau trydedd genhadaeth rhwng sefydliadau a phartneriaid allanol
  • cyllid cychwyn ar gyfer datblygu’r isadeiledd ymchwil rhwng sefydliadau
  • cyfrannu at gynigion cyllido sy’n cynnwys cyrff eraill megis partneriaid yn y Cynulliad, y Cynghorau Ymchwil ac elusennau mawr, neu agendâu eraill ar raddfa’r DU – yn enwedig lle y gallai buddsoddiad bach gan CCAUC helpu i sicrhau buddsoddiad llawer mwy o ffynonellau eraill, efallai ar raddfa’r DU

Gan adlewyrchu’r bwriad y bydd y Gronfa Datblygu Strategol yn gronfa ar gyfer datblygiadau strategol, gwahoddir cynigion gan CCAUC ar sail materion sy’n codi o drafodaethau gyda phenaethiaid sefydliadau a phartneriaid eraill yng Nghymru a’r DU ehangach. Hefyd bydd y Gronfa Datblygu Strategol yn cael ei defnyddio i hybu datblygiadau strategol y cytunir arnynt gan y Cyngor (e.e. Y Cynllun Arian Cyfatebol ar gyfer Rhoi Gwirfoddol), nad ydynt bob amser yn mynd drwy’r broses gynnig.

Cafodd y trefniadau ar gyfer y Gronfa Datblygu Strategol eu diwygio ym mis Medi 2009 i gymryd i ystyriaeth faterion a godwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch.

Mae Cylchlythyr W09/32HE ar Ailgyflunio a Chydweithio yn rhoi gwybod i’r sefydliadau am newidiadau i’r trefniadau gwneud cais a’r prosesau asesu ar gyfer cynigion i’r Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio a’r Gronfa Datblygu Strategol, a fydd mewn grym o fis Medi 2009 ymlaen (Saesneg yn unig).

Cylchlythyr W09/32HE ar Ailgyflunio a Chydweithio (Saesneg yn unig)

Y trefniadau ar gyfer y Gronfa Datblygu Strategol o fis Mai 2005 hyd fis Medi 2009: Cylchlythyr W05/27HE (Saesneg yn unig)


Ceisiadau am gymorth ariannol o'r Gronfa datblygu Strategol yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Ailgyflunio a Chydweithio



Skip to top of page or to page menu