Skip to page content

Ailgyflunio a Chydweithio

Lansiwyd y Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio ym mis Gorffennaf 2002 i gefnogi'r gwaith o ailgyflunio'r sector addysg uwch (AU) yng Nghymru er mwyn sicrhau enillion sylweddol o ran perfformiad a mwy o gystadleurwydd.

Mae nifer fawr o gynigion o bwys wedi cael cefnogaeth gan y gronfa yn cynnwys cyfuno sefydliadau a phartneriaethau, sefydliadau ymchwil cydweithiol, Canolfannau Ymchwil Cenedlaethol a datblygiadau eraill fel Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, gan fod cyllid Ymgeisio’n Uwch wedi dirwyn i ben yn dilyn cyllideb Llywodraeth Cymru 2011-12, nid yw'r Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio wedi bod mewn sefyllfa i gefnogi datblygiadau newydd yn 2011. Ym mis Medi 2011, cyhoeddwyd Cylchlythyr W11/35HE gan hysbysu sefydliadau y byddai'r gronfa'n cau i gynigion newydd.

Mae'r gronfa wedi cefnogi nifer o bartneriaethau ledled Cymru. Roedd y cyfnod cyntaf yn cefnogi uno Prifysgol Caerdydd a Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, a nifer o astudiaethau dichonoldeb. Mae cyfnodau dilynol wedi helpu i ddatblygu amrywiaeth o brosiectau cydweithredol ac roeddent yn hanfodol yn y gwaith o uno Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Cafodd y brifysgol newydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ei siarter frenhinol ar 21 Gorffennaf 2010.

Er bod y gronfa ar gau i gynigion newydd, mae nifer o ddatblygiadau parhaus yn parhau i gael eu cefnogi o dan y trydydd cam yn cynnwys: Sefydliad Ymchwil Carbon Isel; Cynghrair Biowyddoniaeth, yr Amgylchedd ac Amaethyddiaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor; Sefydliad Ymchwil Cyfrifiadura Gweledol; a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru. Mae'r ddolen gyswllt ganlynol yn darparu manylion yr holl geisiasau a ystyriwyd, yn cynnwys partneriasthau a gefnogwyd a cheisiadau nas datblygwyd. Ceir gwybodaeth bellach am gyflawniadau'r fronfa isod

Cyflawniadau'r Gronfa a'r gwersi a ddysgwyd
Cyfuno Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin

Darparwyd cyllid gwerth £14.3 miliwn i gyllido'r gwaith o uno Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin. Mae'r sefydliad newydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn adeiladu ar ragoriaeth y rhiant sefydliadau i greu dyfodol cynaliadwy i ddarpariaeth addysg uwch yn ne-orllewin Cymru. Mae'r Brifysgol wedi gwneud cynnydd sylweddol eisoes wrth ddatblygu ystod newydd o gyrsiau galwedigaethol ac ymgysylltu â busnesau lleol, cymunedau a'r sector di-elw yn yr ardal.

Cyfuno Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru

Darparwyd £15 miliwn i gefnogi cyfuno Prifysgol Caerdydd a Choleg meddygaeth Prifysgol Cymru. Cyfunwyd y sefydliadau'n llwyddiannus yn 2004 a daeth y Brifysgol yn un o'r deg mwyaf yn y DU. Ymgymerwyd â gwethusiad annibynnol o'r broses ac o'r cynnydd a wnaed wedyn tuag at gyrraedd y nodau ar gyfer y sefydliad cyfundedig. Mae'r adroddiad ar y gwerthusiad hwn yn pwysleisio llwyddiant y broses gyfuno, yn ogystal â'r cynnydd mewn cyllid ymchwil a ddyfarnwyd i'r Brifysgol ers y cyfuno. Roedd gwerthusiad annibynnol pellach o effaith y broses uno yn 2010 yn archwilio canlyniadau'r broses uno a gwersi ar gyfer datblygiadau uno yn y dyfodol. 

Terfynu Trafodaethau Uno rhwng Prifysgol Morgannwg ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Yn dilyn terfynu trafodaethau uno rhwng Prifysgol Morgannwg ac Athrofa Cymru, Caerdydd yn 2003, cynhaliwyd arolwg gan GAELWa, sef gwasanaeth archwilio ELWa. Mae'r ddolen gyswllt ganlynol yn eich tywys at adroddiad yr adolygiad hwn. 

Ysgoloriaethau a Chymrodoriaethau Cyfrwng Cymraeg

Mae'r gronfa wedi darparu hyd at £2.9 miliwn i sefydlu Cynllun Ysgoloriaethau i Raddedigion ac ehangu'r Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Ôl-ddoethurol er mwyn cynyddu gallu'r sector i gynnig addysgu cyfrwng Cymraeg. Bydd y cynlluniau Cymru gyfan yn datblygu darlithwyr dawnus a deunyddiau addysgu cyfrwng Cymraeg newydd. Gweinyddir y cynlluniau gan y Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Adroddiad ar werthusiad interim annibynnol o'r cynlluniau hyn. 
Gwersi a ddysgwyd

Yn ogystal â gwerthusiad o'r prosiectau a gwblhawyd, bydd gwybodaeth am y gwersi a ddysgwyd o brosiectau sydd ar y gweill yn cael ei chyhoeddi pan fyddent ar gael.

Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth am y trefniadau blaenorol ar gyfer gweithredu'r gronfa:

Roedd Cylchlythyr W09/32HE: Ailgyflunio a Chydweithio yn hysbysu sefydliadau o ddiwygiadau i'r gweithdrefnau ymgeisio a'r prosesau asesu ar gyfer cynigion i'r Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio a'r Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio, a oedd yn weithredol rhwng mis Medi 2009 a mis Medi 2011.

Roedd Cylchlythyr W04/48HE: Ailgyflunio a Chydweithio yn disgrifio'r ffordd yr oedd y Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio yn gweithredu yn ei hail gam, rhwng 2004/05 a mis Medi 2009.

Skip to top of page or to page menu