Cynllun arian cyfatebol
Rydym wedi sefydlu cynllun arian cyfatebol ar gyfer rhoddion gwirfoddol i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gyda chyllid CCAUC.
Bydd y cynllun yn annog prifysgolion Cymru i gynyddu ac ymestyn eu gallu i godi arian, ac yn cymell rhoi’n wirfoddol ymhlith cyn myfyrwyr ac unigolion eraill trwy warantu arian cyfatebol ychwanegol gan y llywodraeth.
Mae’n seiliedig i raddau helaeth ar gynllun tebyg a weithredir yn Lloegr gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, wedi’i addasu i adlewyrchu maint ac amgylchiadau llai'r sector addysg uwch yng Nghymru.
Rydym wedi rhoi sef symiau o £1.5 miliwn, £3.5 miliwn a £5 miliwn o’r neilltu o’r Gronfa Datblygu Strategol am gyfnod o dair blynedd o 2009/10. Bydd peth o’r cyllid hwn yn cael ei glustnodi ar gyfer adeiladu gallu ac ar gyfer gweithgareddau datblygu.
- rhoddion ar ffurf arian parod
- rhoddion ar ffurf cyfranddaliadau, gyda’u gwerth arian parod wedi’i bennu ar werth y cyfranddaliadau ar y dyddiad y rhoddir hwy
- rhoddion gan ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol bach/canolig sy’n rhoi llai na £60 miliwn y flwyddyn
- rhoddion drwy ymddiriedolaethau datblygu anghyfunol y sefydliadau addysg uwch (SAUau) eu hunain
- rhoddion corfforaethol, os ydynt yn gyson â’r categorïau uchod
- rhoddion tramor, os ydynt yn gyson â’r categorïau uchod
- Rhoddion Cymorth
Bydd angen i sefydliadau roi gwybodaeth i ni am y rhoddion a dderbyniant er mwyn gallu cyrchu’r arian cyfatebol. Bydd y rheolau ar gyfer asesu a yw rhoddion yn gymwys o dan y Cynllun yr un fath ag yn Lloegr. Gellir cael gwybodaeth bellach am hyn o dan Cwestiynau Cyffredin canlynol.
Anogir sefydliadau i edrych ar y Cwestiynau Cyffredin cyn ceisio cyngor ar gymhwyster gan y swyddog CCAUC perthnasol. Dylai sefydliadau Cymreig nodi’r gwahaniaethau yng Nghynllun CCAUC, yn ymwneud yn benodol â haenau a’r trefniadau ar gyfer cymorth ariannol.

