Cysylltiadau Ewropeaidd a rhyngwladol
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch yn cydnabod bod y sector yng Nghymru yn wynebu ystod o gyfleoedd a sialensiau rhyngwladol sylweddol.
Gweledigaeth CCAUC yw datblygu a chynnal addysg uwch o safon ryngwladol yng
Nghymru, er lles unigolion, cymdeithas ac economi Cymru ac y tu hwnt. Mae’r dimensiwn rhyngwladol yn trawstorri nifer o nodau strategol CCAUC.
- yn helpu gwneud y gorau o’r nifer sy’n manteisio ar gyllid Ewropeaidd
- yn ymwneud â sicrhau bod cynrychiolaeth ar gyfer addysg uwch yng Nghymru wrth wraidd llunio polisïau Ewropeaidd
- yn ariannu gwaith i gynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yng Nghymru
Cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus gan CCAUC ar 27 Chwefror 2008 ar ryngwladoli; Y Brifysgol Ryngwladol: Barn o Gymru 2008.
Rydym yn rheoli cynllun a gyllidir gan Ewrop – sef rhaglen cyflogadwyedd GO Wales – ar ran sefydliadau addysg uwch Cymru.
Mae CCAUC yn ariannu nifer o Fentrau eraill sy’n cefnogi gweithgareddau Ewropeaidd a Rhyngwladol mewn Addysg Uwch. Gweler y dolenni cyswllt ar y dde.

