Cynlluniau ymchwil
Rydym yn cefnogi nifer o weithgareddau ar y cyd yng Nghymru. Hefyd, rydym wedi ffurfio partneriaethau gyda chynghorau cyllido eraill y DU a chyrff eraill i weithredu nifer o gynlluniau ar raddfa’r DU sy’n hybu ymchwil.
Cronfa Ailgyflunio a Chydweithio
Sefydlwyd Cronfa Ailgyflunio a Chydweithio i gryfhau’r sector drwy hybu cydweithio rhwng sefydliadau. Mae’r Gronfa’n cefnogi datblygiadau ar draws yr ystod lawn o weithgareddau’r sefydliadau, nid ymchwil yn unig. Serch hynny, mae hi wedi chwarae rhan bwysig mewn cryfhau’r sylfaen ymchwil yng Nghymru drwy gynorthwyo nifer o bartneriaethau ymchwil.
Cronfa Ailgyflunio a Chydweithio
Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth/Bangor
Y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel
Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru
Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru
Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru
Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol Cymru
Cynghrair y Biowyddorau a’r Amgylchedd
Rydym wedi llofnodi’r cytundebau canlynol, ac rydym yn gweithio gyda chyrff eraill ar draws y DU i sicrhau y cânt eu gweithredu:
Cyfres o egwyddorion wedi’u llunio gan gyrff sy’n cyllido ymchwil yn y DU i annog ymwneud y cyhoedd er mwyn atgyfnerthu effaith gymdeithasol ac economaidd ymchwil.
Concordat ar gyfer Denu’r Cyhoedd i Ymwneud ag Ymchwil
Datganiad o ddisgwyliadau a chyfrifoldebau ymchwilwyr a’u rheolwyr, cyflogwyr a chyllidwyr mewn perthynas â datblygiad gyrfa, sydd â’r nod o wneud gyrfaoedd ymchwil yn y DU yn fwy deniadol a chynaliadwy.
Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr
Fel rhan o’r ymrwymiad hwn i yrfaoedd ymchwilwyr, rydym yn annog prifysgolion yng Nghymru i gymryd rhan yn y canlynol:
Rydym yn annog sefydliadau AU yng Nghymru i gymryd rhan yn yr Arolwg Ar-lein o Yrfaoedd Ymchwil a fydd yn casglu gwybodaeth am staff ymchwil megis amodau gwaith, dyheadau gyrfa, a chyfleoedd datblygu gyrfa. Fe’i cynhelir bob yn ail flwyddyn a roedd CROS 2011 ar agor i sefydliadau AU o 1 Mawrth hyd 31 Mai 2011.
Mae’r arolwg hwn yn ategu CROS drwy gasglu ymatebion gan brif ymchwilwyr sy’n dangos sut y bu iddynt ennill y profiad a galluoedd sydd wedi’u gwneud yn arweinwyr ymchwil, a sut y gall arweinwyr ymchwil y dyfodol ennill y profiad a galluoedd y bydd eu hangen arnynt. Fe’i cynhelir bob yn ail flwyddyn hefyd a roedd ar agor i sefydliadau AU o 1 Mai hyd 31 Mehefin 2011.
Rydym yn cefnogi prosiect wedi’i gomisiynu gan CCAULl sydd â’r nod o wella cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gyrfaoedd ymchwil ar draws y DU. Bydd y prosiect yn cael ei weinyddu gan Vitae.

