Ymchwil
Ein nod yw hybu sylfaen ymchwil rymus a chynaliadwy yng Nghymru sy’n cymharu’n dda â honno yng ngweddill y DU o ran ansawdd, ac sy’n gallu cyfrannu at les economaidd a chymdeithasol Cymru a'r tu hwnt.
- Darparwn oddeutu £74 miliwn y flwyddyn i sefydliadau drwy ein prif gronfa fformiwla-seiliedig ar gyfer ymchwil, QR.
- Hefyd, dyrannwn gyllid i sefydliadau ar gyfer hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, ac ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn cyfarpar a chyfleusterau ymchwil. Yn ogystal, darparwn beth cyllid i gefnogi mentrau penodol.
- Mae ein Pwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymwneud yn helpu i lywio ein gwaith ar bolisi a chyllido ymchwil.
Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil mewn addysg uwch yn cael ei weinyddu o dan drefn cymorth ddeuol. O dan y drefn hon, mae’r cyllid a ddyrannwn i sefydliadau yng Nghymru yn helpu i gynnal eu hisadeiledd ymchwil ac yn rhoi’r hyblygrwydd iddynt i benderfynu ar gyfeiriad strategol eu hymchwil. Ar ochr arall y drefn cymorth ddeuol, darperir grantiau ar gyfer prosiectau a rhaglenni penodol gan y Cynghorau Ymchwil, elusennau, yr UE ac adrannau’r llywodraeth.

