Skip to page content

Cyllido ymchwil

Darparwn gyllid ar gyfer ymchwil yn bennaf trwy ein cyllid ymchwil o safon (QR).  Hefyd dyrannwn gyllid i sefydliadau ar gyfer hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Cyllid Ymchwil o Safon (QR)

Dyrennir cyllid QR yn ddetholus i gydnabod ac atgyfnerthu ymchwil ragorol. 
Dyrennir y cyllid drwy fformiwla ar sail canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil (YAY) 2008.  Yn 2011/2012, darparwn £71 miliwn drwy QR.

Esboniad o’r fformiwla gyllido QR (Saesneg yn unig)

Dyraniadau QR 2011/2012

Cyllido Ymchwil Ôl-Radd (YOR)

Mae CCAUC yn gweithredu ffrwd gyllido ar wahân i gefnogi’r hyfforddiant a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch (SAUau) ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-radd (YOR).  Yn 2011/2012, darparwn £5.2 miliwn drwy’r ffrwd gyllido YOR.

Ein dull cyllido YOR (Saesneg yn unig)

Dyraniadau cyllid YOR 2011/2012

Skip to top of page or to page menu