Asesu ymchwil
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) a chyrff cyllido addysg uwch eraill y DU i ddatblygu trefniadau newydd ar gyfer asesu ymchwil. Bydd y trefniadau newydd – a elwir yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil – yn cymryd lle’r Ymarfer Asesu Ymchwil.
Yn sgîl gweithgareddau datblygu cychwynnol, cyhoeddon ni ymgynghoriad ym Mis Medi 2009. Cyhoeddwyd y canlyniadau a phenderfyniadau ym Mis Mawrth 2010. Ar hyn o bryd, mae’r cyrff cyllido yn rhagbrofi ac yn datblygu ein cynlluniau ar gyfer asesu dylanwad ymchwil.
Gwybodaeth bellach am y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Aseswyd ymchwil gynt trwy’r Ymarfer Asesu Ymchwil (YAY) a gynhaliwyd o bryd i’w gilydd gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU. Ymgymerwyd â’r YAY diwethaf yn 2008. Mae canlyniadau YAY 2008, a mwy o wybodaeth ynglyn â'r YAY ar gael ar wefan YAY 2008. Ceir dadansoddiad o berfformiad y sector yng Nghylchlythyr W09/07HE.
Gellir cyrchu gwybodaeth am yr Ymarferion Asesu Ymchwil a gynhaliwyd yn 2001, 1996 a 1992 ar wefan y YAY.

