Meysydd polisi
Mae’r cyllid rydym yn ei roi i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru bob blwyddyn ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru. Un o’n cyfrifoldebau, felly, yw sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Rydym yn ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru trwy ein strategaeth a chynllun corfforaethol a thrwy ystyried cynlluniau strategol sefydliadau. Rydym hefyd, serch hynny, yn datblygu polisïau mewn ystod o feysydd a, thrwy ffrydiau ariannu penodol ac ymyriadau eraill, yn annog y sefydliadau i gwrdd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.
Wrth i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ddatblygu, mae ystod y meysydd polisi, a’r gweithgareddau penodol oddi mewn iddynt, yn newid. Gallwch weld manylion yr ystod meysydd polisi presennol yn y tabiau ar frig y dudalen hon.

