Skip to page content

Myfyrwyr 

Mae profiad y myfyrwyr, a chyfranogiad mewn ansawdd a chysylltiad addysg uwch (AU) wedi dod yn gynyddol flaenllaw yn y blynyddoedd diweddar.

Mae nhw wedi bod yn bynciau astudiaethau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys ein ‘Astudiaeth o Hyd a Lled ac Effeithiolrwydd Strwythurau Cyfredol Cynrychiolaeth Myfyrwyr yn Sefydliadau Addysg Uwch Cymru’ 2006 ‘a gomisiynwyd gan York Consulting, a adroddodd yn gadarnhaol ar weithgareddau sefydliadau i wella cynrychiolaeth myfyrwyr.

Astudiaeth o Hyd a Lled ac Effeithiolrwydd Strwythurau Cyfredol Cynrychiolaeth Myfyrwyr yn Sefydliadau Addysg Uwch Cymru’: Cylchlythyr W06/52HE

Adroddiad York Consulting

Rydym ni hefyd wedi cyllido prosiect UCM Cymru i wella cynrychiolaeth myfyrwyr yng Nghymru a chefnogi’r broses adolygu sefydliadol. Mae UCM Cymru yn gweithio i wella cynrychiolaeth myfyrwyr yng Nghymru a chefnogi’r Broses Adolygu Sefydliadol.

Prosiect UCM Cymru

Bydd adolygwyr o blith y myfyrwyr yn cymryd rhan yn y broses adolygu sefydliadol newydd o 2009/10. Bydd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn darparu hyfforddiant ar eu cyfer a bydd UCM Cymru yn cynorthwyo undebau i ysgrifennu datganiadau blynyddol a fydd yn cyfrannu at gyflwyniad i’r tîm adolygu gan fyfyrwyr.

Ym mis Hydref 2009, lansiodd CCAUC  ymrwymiad traws-sector, Menter Ymgysylltu â Myfyrwyr Cymru (WISE), gyda chefnogaeth unfrydol Addysg Uwch Cymru (AUC), Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru (NUS Cymru), yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA), yr Academi Addysg Uwch (AAU), a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Nod WISE yw gwella, rhannu ac adeiladu ar yr arfer da presennol ym maes ymgysylltu â myfyrwyr yng Nghymru.

Menter Ymgysylltu â Myfyrwyr Cymru

Skip to top of page or to page menu