Dysgu, addysgu a myfyrwyr
Mae’r sector addysg uwch (AU) wedi tyfu dros y degawd diwethaf, gyda nifer ac amrywiaeth cynyddol o fyfyrwyr, galw cynyddol am hyblygrwydd darpariaeth, a mwy o graffu ynglyn â darpariaeth a pherthnasedd darpariaeth AU i’r economi. Mae’r materion hyn wedi cyflwyno heriau mawr i’r sector AU yng Nghymru.
- Mae addysgu, y cwricwlwm ac asesu yn graidd i brofiad dysgu myfyrwyr a chanlyniadau dysgu effeithiol.
- Maen effeithio ar gyflogadwyedd graddedigion a pherthnasedd sgiliau a enillwyd i’r economi.
- Ein nod yw sicrhau y bydd pob dysgwr yn cael mynediad at brofiad dysgu o ansawdd da.
- Yr ydym eisiau cynorthwyo sefydliadau i ddarparu cynnydd mewn hyblygrwydd a hygyrchedd darpariaeth, gan gynnwys hwyluso addysg cyfrwng Gymraeg, ac ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Er Mwyn Ein Dyfodol yw strategaeth a chynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. Mae’n datblygu ac yn cymryd lle Ymgeisio’n Uwch ac yn ymateb i Adolygiad Jones o Addysg Uwch.
Disgrifiad o AU yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Diagram o AU yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

