Datblygu dysgu ac addysgu
Hyrwyddwn addysgu rhagorol drwy ein strategaeth gwella ansawdd.
Cefnogwn strategaethau dysgu ac addysgu sefydliadau addysg uwch (AU) drwy Gronfa Dysgu ac Addysgu. Gwelir canllawiau ein strategaethau dysgu ac addysgu sefydliadol o 2011/12 i 2013/14 yng Nghylchlythyrau W10/41HE a W11/17HE (Saesneg yn unig). Mae’r Academi Addysg Uwch yn adolygu’r Strategaethau Dysgu ac Addysgu ar ein rhan.
Rydym yn cyllido ac yn gweithio gyda'r Academi Addysg Uwch i gefnogi’r gymuned addysg uwch er mwyn gwella ansawdd ac effaith dysgu ac addygu. Mae’r Academi Addysg Uwch hefyd yn cydlynu Cyfeiriadau’r Dyfodol, sy’n cwmpasu’r gwaith o wella ansawdd sy’n cael ei gynnal gan sector AU Cymru, sydd â’r nod o wella meysydd penodol o brofiad dysgu’r myfyriwr, drwy annog staff academaidd a staff cymorth, a myfyrwyr i rannu arferion da cyfredol a chreu syniadau a modelau ar gyfer arloesedd o ran dysgu ac addysgu.
Themâu gwella ansawdd i Gymru
Y thema gyntaf yw Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol. Mae’r tri llinyn gwaith yn dod o dan y thema hon:
1. Myfyrwyr fel partneriaid
2. Dysgu Mewn Gwaith
3. Dysgu argyfer gwaith
Ein Pwyllgor Profiad Myfyrwyr, Addysgu ac Answadd sy'n llwyio ein gwaith yn y maes hwn
Pwyllgor Profiad Myfyrwyr, Addysgu ac Ansawdd
Mae addysgu, y cwricwlwm ac asesu yn elfen graidd o brofiad dysgu myfyrwyr a chanlyniadau dysgu effeithiol, sydd yn eu tro yn effeithio ar gyflogadwyedd graddedigion a pherthnasedd sgiliau a enillwyd i’r economi.
Ein nod yw sicrhau y bydd pob dysgwr yn cael mynediad at brofiad dysgu o ansawdd da. Rydym hefyd yn ceisio helpu sefydliadau i gynnig darpariaeth mwy hyblyg a hygyrch, gan gynnwys hwyluso addysg cyfrwng Cymraeg ac ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth yn llawn.

