Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
Bwriad Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCCC) yw cynnig mwy o hyblygrwydd i ddysgwyr yn y ffordd y maent yn astudio a hwyluso dilyniant rhwng addysg bellach ac addysg uwch.
Mae’n caniatáu i fyfyrwyr ennill credydau wrth iddynt astudio a chronni credydau i ennill cymwysterau. Mae pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru wedi mabwysiadu'r FfCCC.
Caiff y Fframwaith ei weithredu gan dîm sydd wedi’i leoli yn Llywodraeth Cymru. Mae’r Cynllun Gweithredu a'r Llawlyfr, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, yn darparu cyngor ac arweiniad am drosglwyddiad effeithiol FfCCC.
Manteision FfCCC
I ddysgwyr, mae'n cynnig system sydd:
- yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyflawniadau
- yn cynorthwyo’u cynnydd mewn addysg a chyflogaeth ledled y DU, yn ogystal ag Ewrop o bosibl
- yn ei gwneud yn haws iddynt drosglwyddo eu gwybodaeth a’u sgiliau rhwng llywbrau gyrfa a darparwyr addysg a hyfforddiant
- yn eu galluogi i gronni credydau i fodloni anghenion datblygu gyrfa a phersonol.
- asesu gwerthoedd perthynol cymwysterau gwahanol yn hawdd
- annog mwy o bobl yng Nghymru i ddatblygu’r sgiliau i fodloni eu gofynion
- goresgyn diffygion sgiliau.
- ymateb i anghenion newidiol y farchnad
- hyrwyddo trosglwyddo a dilyniant ymysg dysgwyr
- creu dysgu perthnasol sydd wedi’i deilwra
- gwneud addysg a hyfforddiant ôl-16 yn fwy ymatebol i anghenion darpar fyfyrwyr
- annog mwy o bobl yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau i ateb eu gofyniadau
- gorchfygu prinder sgiliau

