Gwella dysgu ac addysgu drwy dechnoleg
Rydym yn cefnogi datblygiad technoleg gwybodaeth (TG) a chyfathrebu’r sector addysg uwch drwy nifer o gynlluniau.
Yn arbennig, rydym:- yn cyllido’r Cyd Bwyllgor Systemau Gwybodaeth sy'n cefnogi addysg ôl-16 ac uwch ac ymchwil yn y DU
- wedi buddsoddi yn Rhwydwaith Fideo Cymru ar gyfer y sector - un o’r rhwydweithiau fideo-gynadledda sy’n seiliedig ar y Rhyngrwyd mwyaf yn Ewrop
- yn cyllido’r Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) sy'n cefnogi gwasanaeth gwell i ddinasyddion Cymru drwy hwyluso cydweithio ac effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus.
Yn 2008 cyhoeddasom strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer dysgu wedi’i wella gan dechnoleg a darparwyd cymorth o £1 filiwn i gynnal y prosiect Gwella a’r rhaglen Adeiladu Gallu.
Pan gyhoeddwyd y strategaeth dysgu wedi’i wella gan dechnoleg, cydnabuwyd y byddai angen ei hadolygu’n rheolaidd. Cwblhawyd adolygiad o’r modd yr oedd y strategaeth wedi cael ei gweithredu ym mis Mehefin 2011. Yn dilyn hyn gwnaethom gyhoeddi strategaeth gwella dysgu ac addysgu drwy dechnoleg wedi’i diweddaru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.
W11/32HE: Gwella Dysgu ac Addysgu drwy Dechnoleg: diweddaru’r strategaeth
Adolygiad Gweithredu o Wella Dysgu ac Addysgu drwy Dechnoleg
Adroddiad Terfynol y Rhaglen Gwella
Adroddiad Terfynol y Rhaglen Adeiladu Gallu
Yn sgil hyn gwnaethom gyhoeddi strategaeth wedi’i diweddaru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru, Mae’r canllaw ar gyfer strategaethau dysgu ac addysgu sefydliadol rhwng 2011/12 a 2013/14 ar gael yn W10/41HE a W11/17HE.
Mae Canolfan Gymorth Ranbarthol y Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth wedi datblygu pecyn cymorth ar-lein, Gwella Dysgu ac Addysgu drwy Dechnoleg ym maes AU yng Nghymru, i gefnogi’r gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer strategaeth newydd Gwella Dysgu ac Addysgu drwy Dechnoleg 2011 CCAUC.

