Targedau recriwtio: hyfforddiant cychwynnol athrawon
(HCA)
Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod targedau bob blwyddyn ar gyfer recriwtio myfyrwyr i gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ar y lefelau cynradd ac uwchradd yng Nghymru.
Mae’r targedau hyn yn rhoi ystyriaeth i amcangyfrif o’r galw am athrawon newydd yng Nghymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu gostyngiadau mewn targedau oherwydd bod mwy o athrawon nag oedd eu hangen. O ganlyniad, mae darpariaeth HCA yn cael ei hailgyflunio yng Nghymru drwy greu partneriaethau rhwng darparwyr i ffurfio Canolfannau Addysg Athrawon.
Ar sail y targedau cyffredinol ar gyfer y sector, bydd CCAUC yn gosod targedau recriwtio i ddarparwyr HCA addysg uwch.
Yn ogystal â gwahaniaethu rhwng targedau ar gyfer hyfforddiant athrawon cynradd ac uwchradd, rhennir targedau ymhellach yn niferoedd israddedig a TAR. O fewn y targedau uwchradd, ceir targedau penodol ar gyfer meysydd pwnc neilltuol.
Wrth ddyrannu targedau i ddarparwyr, bydd CCAUC yn cymryd i ystyriaeth ffactorau megis:- perfformiad recriwtio’r sector yn gyffredinol ac mewn meysydd pwnc unigol mewn blynyddoedd blaenorol
- perfformiad recriwtio darparwyr unigol yn erbyn targedau recriwtio mewn blynyddoedd blaenorol
- yr angen i gydbwyso darpariaeth pwnc ar draws y sector, ac i gynnal hyfywedd y ddarpariaeth
- tystiolaeth gan Estyn ynghylch ansawdd yr hyfforddiant a gynigir gan ddarparwyr

