Hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA)
Mae gan CCAUC gyfrifoldebau penodol ar gyfer HCA yng Nghymru, a chylch gwaith ehangach felly nag ar gyfer meysydd pwnc eraill mewn addysg uwch. Mae ein rôl yn cynnwys:
- achredu darparwyr HCA ar gyfer athrawon ysgol, yn unol â meini prawf a bennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
- gweithio gydag Estyn i sicrhau bod y prifysgolion sy’n darparu HCA yng Nghymru yn parhau i gwrdd â’r gofynion ar gyfer HCA a bod eu darpariaeth yn galluogi myfyrwyr i ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- pennu targedau recriwtio HCA bob blwyddyn ar gyfer pob darparwr yn unol â’r targedau recriwtio cenedlaethol - Cymreig - a osodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
- comisiynu ymchwil i wella safonau athrawon a hyfforddiant athrawon
- hybu’r arferion gorau a darparu cymorth ariannol ar gyfer strategaethau datblygu’r darparwyr HCA
Gweithiwn gyda’r prifysgolion sy’n darparu HCA yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Estyn a Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ar hyd a lled Cymru.
Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yw’r cwrs addysg a hyfforddiant sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig. Rhaid i bawb sy’n dymuno addysgu mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru a Lloegr feddu ar y cymhwyster hwn.
I ddarganfod rhagor am ddod yn athro ewch i Hyfforddi i fod yn athro.

