Cyllido hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA)
Mae CCAUC yn cyllido hyfforddiant cychwynnol athrawon drwy ei grant addysgu rheolaidd a dyraniadau i gefnogi gweithredu strategaethau HCA..
Pwnc “cwota” yw HCA, sy’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn gosod cwota blynyddol neu “dargedau recriwtio” i’r sector addysg uwch yn ei gyfanrwydd ar gyfer cofrestru myfyrwyr newydd ar gyrsiau HCA. Fel rhan o’i grant rheolaidd cyffredinol ar gyfer addysgu, bydd CCAUC yn pennu cyllid a niferoedd wedi’u cyllido ar gyfer prifysgolion sy’n cynnig HCA ar sail y targedau recriwtio hyn. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y dyraniadau hyn yn y cylchlythyr ar y Grant Rheolaidd a gyhoeddir bob blwyddyn gan CCAUC.
Bydd CCAUC yn darparu Cyllid Strategaeth HCA ac yn gofyn i ddarparwyr HCA baratoi strategaethau tair blynedd yn sylfaen ar gyfer rhyddhau’r cyllid. Mae’r strategaethau’n darparu fframwaith ar gyfer gwaith datblygu a gweithgareddau sy’n cefnogi HCA. Maent hwy hefyd yn helpu i roi sicrwydd i CCAUC ac Estyn (Swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yng Nghymru) fod darparwyr yn mynd i’r afael â blaenoriaethau a gofynion ar gyfer HCA ac yn cwrdd ag anghenion eu myfyrwyr.
Rydym yn cyllido darparwyr HCA i weithredu eu strategaethau ar gyfer 2009/10 i 2011/12 Rhai o’r meysydd blaenoriaethol ar gyfer y strategaethau yw:- datblygu a chynnal partneriaethau ag ysgolion
- marchnata, a recriwtio a chadw myfyrwyr
- cyfrannu at gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y proffesiwn dysgu
- sicrhau a gwella ansawdd, gan gynnwys paratoi ar gyfer ac ymateb i arolygiadau Estyn
- cynllunio a datblygu’r cwricwlwm
- darparu hyfforddiant ar gyfer y rheiny sy’n dymuno addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
- darparu hyfforddiant ar gyfer addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith
Mae darpariaeth HCA yng Nghymru wedi cael ei hailgyflunio drwy ffurfio partneriaethau rhwng prifysgolion i greu tair Canolfan Addysg Athrawon newydd. Bydd y strategaethau HCA yn helpu’r Canolfannau i ddatblygu gweithio ar y cyd.
Mae cyfanswm o oddeutu £1.13 miliwn yn y Gronfa Strategaeth HCA ar gyfer 2011/12.

