Archredu darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon
(HCA) yng Nghymru
Mae'n ofynnol i sefydliadau addysg uwch (AU) sy'n darparu hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) i athrawon ysgol yng Nghymru gael achrediad gan CCAUC er mwyn rhedeg cyrsiau HCA sy'n caniatáu i'w myfyrwyr ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). O dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, gall CCAUC achredu sefydliadau AU fel darparwyr HCA.
Gall CCAUC ond achredu sefydliadau os ydynt yn bodloni meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er mwyn i ni gyflawni'r cyfrifoldebau hyn, mae gan CCAUC weithdrefnau ar waith ar gyfer achredu darparwyr HCA. Yn 2008 gwnaethom gyhoeddi diweddariad sylweddol o'n gweithdrefnau (gweler Cylchlythyr W08/17HE). Bu datblygiadau pellach sy'n ymwneud â HCA ers 2008 ac rydym wedi diweddaru ein gweithdrefnau i adlewyrchu'r rhain.
Mae'r gweithdrefnau diwygiedig yn effeithiol o flwyddyn academaidd 2011/12 ac maent yn disodli'r holl weithdrefnau blaenorol. Maent yn cwmpasu:
Achredu darparwyr newydd
Cadarnhau cydymffurfiaeth gan ddarparwyr achrededig cyfredol
Mynd i'r afael â diffyg cydymffurfiaeth a thynnu achrediad yn ôl.
Mae'r gweithdrefnau'n seiliedig ar ofynion cyfredol Llywodraeth Cymru a threfniadau cyfredol Swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi (Estyn) ar gyfer arolygu darparwyr HCA. Byddwn yn parhau i adolygu'r gweithdrefnau o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol. Rhwng yr adegau adolygu, dylid tybio bod gofynion diweddaraf Llywodraeth Cymru neu Estyn yn berthnasol oni nodir yn wahanol.

