Skip to page content

Sgiliau a chyflogadwyedd

Ein nod yw sicrhau bod addysg uwch yng Nghymru yn cwrdd ag anghenion a disgwyliadau dysgwyr a rhanddeiliaid eraill, yn enwedig cyflogwyr, drwy gynhyrchu graddedigion tra medrus a chyflogadwy yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer diweddaru sgiliau’r gweithlu presennol drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Cyllido ar gyfer gweithgareddau’n ymwneud â sgiliau a chyflogadwyedd

Bydd CCAUC yn darparu cyllid ar gyfer yr agenda sgiliau a chyflogadwyedd drwy’r sianeli a ganlyn:

GO Wales

CCAUC yw noddwr y rhaglen GO Wales a weithredir mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch (SAUau) Cymru i hybu datblygu sgiliau ar gyfer yr economi gwybodaeth.

Y dull cyllido addysgu

Mae dull addysgu CCAUC yn caniatáu i SAUau yng Nghymru ddarparu eu cyrsiau’n hyblyg o ran strwythur a lleoliad. Mae'r system yn ddigon hyblyg i ddarparu’n effeithiol ar gyfer dysgu yn y gweithle (e.e. Datblygiad Proffesiynol Parhaus, cyrsiau hyfforddi wedi’u teilwra, ac ati).

Hyfforddiant Ymchwil Ôl-Radd (YOR)

Mae’r hyfforddiant a ddarperir gan SAUau i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr tra medrus yn cael ei gynnal gan ein ffrwd gyllido YOR.

Y Gronfa Trydedd Genhadaeth

Defnyddiwn y Gronfa Trydedd Genhadaeth i gefnogi gweithgareddau yn y cyswllt hwn, gan gynnwys cyflogadwyedd graddedigion.

Y Gronfa Ailgyflunio a Chydweithio / Y Gronfa Datblygu Strategol

Mae’r cyllid a ddarparwn ar gyfer cydweithio yn cynnal nifer o gynlluniau sydd â phwyslais pendant ar sgiliau fel Academi Sgrin Cymru Skillset sydd yn ganolfan rhagoriaeth hyfforddiant a sgiliau lefel uchel ar gyfer y diwydiant ffilm.

Cymorth Ychwanegol i Fyfyrwyr Rhan-amser

£2 filiwn y flwyddyn, at gryfhau cydweithio gyda chyflogwyr mewn perthynas â darpariaeth addysg uwch ran-amser.

Y Fenter Cymorth Economaidd

Yn 2009, gan gydnabod yr angen i helpu i liniaru effeithiau’r trafferthion economaidd presennol, darparwyd cyfanswm o £2 filiwn i hybu gweithio ar y cyd rhwng SAUau ac i wella ac ychwanegu gwerth at waith sy’n cael ei wneud eisoes gydag unigolion a chyflogwyr.

W09/06HE: Economic Support Initiative (Saesneg yn unig)

Gweithio gyda’r Cynghorau Sgiliau Sector (CSSau)

Cynghorau Sgiliau Sector yw’r cyrff wedi’u gyrru gan gyflogwyr sydd gyda’i gilydd yn rhoi llais i gyflogwyr oddeutu 90% o weithlu’r DU ar faterion yn ymwneud â sgiliau.

  • Cafodd Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector ei sefydlu i fod yn llais i’r holl CSSau, i gydlynu eu safleoedd polisi ac i helpu i gryfhau eu perfformiad a’u heffeithiolrwydd.
  • Rheolir perfformiad y CSSau gan Gomisiwn y DU ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau (UKCES)
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru i gynghori gweinidogion ar bob mater yn ymwneud â sgiliau, cyflogaeth a chymorth busnes.
Rydym yn gysylltiedig â’r Cynghorau Sgiliau Sector drwy:
  • ein haelodaeth o Grŵp Rhanddeiliaid Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd â’r nod o sicrhau bod CSSau, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, yn gwella eu perfformiad yn barhaus yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cynlluniau gweithredu gyda phob un o’r 25 CSS
  • ein Grŵp Cyfathrebiadau AU-CSS, sydd â’r nod o helpu i sefydlu cysylltiadau strwythuredig strategol rhwng SAUau Cymru a’r Cynghorau Sgiliau Sector er mwyn cyflawni polisïau a strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru
Skip to top of page or to page menu