Skip to page content

GO Wales

Mae CCAUC yn noddi’r rhaglen Cyfleoedd i Raddedigion Cymru (GO Wales), sy’n helpu myfyrwyr a graddedigion yng Nghymru i ddod o hyd i waith – neu brofiad gwaith – ac yn annog busnesau Cymreig i edrych yn nes adref am y medrau uwch sydd eu hangen arnynt.

Caiff y rhaglen ei gweinyddu gan ddeg sefydliad addysg uwch yng Nghymru ac mae’n cynnig gwasanaethau i israddedigion, graddedigion a busnesau ar hyd a lled y wlad.

Rhai o’r gwasanaethau a gynigir yw:
  • lleoliadau blasu gwaith i fyfyrwyr a graddedigion sy’n eu galluogi i ddysgu mwy am eu dewis yrfa
  • lleoliadau gwaith gyda chyflog i fyfyrwyr a graddedigion
  • cymorth ariannol i fentrau bach i ganolig i’w helpu i hyfforddi a datblygu eu staff graddedig
  • rhaglen Academi Graddedigion i helpu graddedigion tan gyflogedig a di-waith i gyrchu gwaith a phrofiad gwaith wrth feithrin sgiliau lefel uwch
  • rhaglen Academi Gweithwyr Annibynnol i’r rheiny sy’n ystyried neu sy’n dymuno cymryd y camau cyntaf tuag at weithio ar eu liwt eu hunain

Mae GO Wales yn cael ei gyllido’n rhannol gan gyllid cydgyfeiriant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Gweler yr adroddiad gwerthuso ar gyfer GO Wales cam 2, Ebrill 2005 hyd Ragfyr 2006 yma (Saesneg yn unig)


Atodiadau

Ymweld â gwefan GO Wales

Skip to top of page or to page menu