Skip to page content

Cyllido a chynlluniau

Canolbwynt strategol thema 'busnes a chymuned' y CCAUC yw cynyddu cyfraniad addysg uwch i’r economi a chymdeithas. Sefydlwyd y Gronfa Arloesedd ac Ymgysylltu (AacY) i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau cyfnewid gwybodaeth mewn sefydliadau addysg uwch (AU) a fydd yn dod â buddion i Gymru ac i’r DU.

Gofynnir i sefydliadau AU yng Nghymru ddarparu Strategaethau Trydedd Genhadaeth tair blynedd treigl sy’n datblygu eu gweithgareddau ‘trydedd genhadaeth’ (cyfnewid gwybodaeth), gan gyfrannu at les economaidd a chymdeithasol Cymru. Cyflwynwyd y strategaethau presennol yn 2007. Ond rhaid i strategaethau tair blynedd newydd gael eu cyflwyno erbyn 29 Gorffennaf 2011 yn unol â’r arweiniad yng nghylchlythyr W11/10HE: Innovation and Engagement funding arrangements 2011/12 to 2013/14 (Saesneg yn unig).

Bydd £8.2 filiwn o gyllid AacY ar gael yn 2011/12. Dyrennir £6 miliwn drwy fformiwla a £2.2 filiwn drwy broses gynnig gystadleuol.

Yn ystod y cylch cyllido presennol, darparwyd £1 filiwn ar gyfer y prosiectau Trydedd Genhadaeth cydweithiol canlynol:

Partneriaeth Arloesedd y Ddraig

Y Prosiect Sgiliau Diwydiant Bwyd

Y Rhaglen Mewnwelediad Strategol

Canolfan Sgiliau Aber-Bangor

Skip to top of page or to page menu