Cyfraniad addysg uwch
Hyd yn oed ar adegau ‘arferol’, mae’r sector addysg uwch yn rym economaidd o bwys sy’n:- cynhyrchu dros 30,000 o raddedigion y flwyddyn
- cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn at economi Cymru
- gyflogwr o bwys yng Nghymru
- helpu i greu 13% o’r busnesau newydd a ddechreuir gan raddedigion a staff ar draws y DU – ymhell uwchben eu ‘pwysau’ o 5% yn economi’r DU
- denu buddsoddiad o’r tu allan ac yn cynhyrchu enillion allforio
- denu £131 miliwn o fuddsoddiad ymchwil i Gymru o ffynonellau cyhoeddus a phreifat ehangach yn y DU, ac o’r Undeb Ewropeaidd
- cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru, y mae pob un ohonynt yn cynhyrchu galw lleol am nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys dros 12,000 o fyfyrwyr tramor, sy’n dod ag incwm o dros £110 miliwn bob blwyddyn ar ffurf ffioedd dysgu a gwariant byw
- gefnogi creu swyddi a’r economi lleol drwy ddwyn ymlaen cymaint â phosibl o brosiectau adeiladu a chynnal AU newydd yng Nghymru sy’n werth dros £100 miliwn
- cysylltu â chyflogwyr lleol i drafod yn uniongyrchol sut y gallant fod o gymorth
- bod yn bartneriaid yn GO Wales, sy’n helpu cwmnïau bach a chanolig a chyrff eraill i gyrchu sgiliau lefel uwch, ac mae gan rai cynlluniau lleol yn ogystal
- darparu gwasanaethau cynghori i fusnesau, a hyfforddiant arbenigol, megis datblygiad proffesiynol parhaus neu entrepreneuriaeth i weithredwyr
Mae prifysgolion a cholegau’n cynnig cyfleoedd i bobl yng Nghymru sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau neu ail-hyfforddi. Maent hwy hefyd yn cynnig hyfforddiant i’r nifer sydd wedi colli eu swyddi’n ddiweddar neu sy’n wynebu colli gwaith neu gwtogi oriau. Er enghraifft, mae rhai sefydliadau’n:
- cynnig cymhellion i bobl mewn gwaith sy’n mynd ar gyrsiau rhan-amser neu gyrsiau ‘dysgu yn y gwaith’ i ennill sgiliau lefel uwch
- cynnig cymorth drwy raglenni Re-Act a Pro-Act Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Mae gan un sefydliad adnodd newydd ar y we sy’n cynnig adnoddau addysgol a chyflogaeth ddi-dâl, megis cymorth gyda CVs, canfod bylchau mewn sgiliau a chynnwys cyrsiau di-dâl, ac sy’n rhoi cyngor ar y ffordd orau o ariannu eich astudiaethau
- cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsarïau i ddenu a chadw myfyrwyr
- darparu cronfeydd caledi ar gyfer myfyrwyr cymwys
- cynnig modiwlau neu weithdai’n aml mewn entrepreneuriaeth neu hyfforddiant busnes i wneud eu graddedigion yn fwy cystadleuol
- darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu a lleoliadau ar gyfer bron 4,000 o fyfyrwyr a graddedigion drwy’r rhaglen GO Wales i’w paratoi ar gyfer cyflogaeth
Arwain Cymru allan o’r dirwasgiad – mini-gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru
Cysylltiadau mewn sefydliadau addysg uwch
Mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, Amgueddfa Cymru, Techniquest a BBC
Cymru wedi dod yn unig Oleufa Cymru ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, i arwain prifysgolion Cymru i weithio’n agosach gyda’r cyhoedd.
Mae Goleufa Cymru yn annog prifysgolion i wneud cyfraniadau ehangach at gymdeithas trwy ymwneud â chymunedau’n llawnach yn eu gwaith ac mae’n rhan o’r fenter fwyaf o’i math sydd erioed wedi’i lansio yn y DU.
Bydd yr Oleufa yn agor cyfleoedd i bobl y tu allan i gymunedau academaidd ddeall yn
well ymchwil yr ymgymerir â hi mewn prifysgolion, ei chefnogi a’i herio.
Sefydlwyd cyfanswm o chwe goleufa, gan gynnwys eraill ym Manceinion, Newcastle, Norwich, Llundain a Chaeredin. Hefyd mae canolfan gydlynu ledled y DU ym Mryste, sydd yn gweithio ar hyd y fenter i hyrwyddo arfer gorau a chynnig un man cyswllt ar gyfer y sector addysg uwch cyfan.

