Busnes a chymunedau
Mae CCAUC yn cefnogi gweithgareddau’r sector addysg uwch sy’n cyfrannu at les economaidd a chymdeithasol Cymru. Cyfeirir at hyn yn aml fel “trydedd genhadaeth” y sector.
Yn y maes hwn, mae CCAUC yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng sefydliadau addysg uwch (AU) a’r sectorau cyhoeddus a phreifat, a rhwng sefydliadau AU a’u cymunedau lleol.
Ein nod yw sicrhau bod addysg uwch yng Nghymru:
- yn cymharu’n dda ag ardaloedd eraill yn y DU yn nhermau gweithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol
- yn gweithio’n egnïol ac yn llawn â chymunedau, busnesau a’r sector cyhoeddus er mwyn helpu cyrraedd nodau economaidd a chymdeithasol Llywodraethau Cymru a San Steffan
- yn cwrdd â nodau Llywodraeth Cymru yn nhermau addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang a safle Cymru'n rhyngwladol
Rydym wedi sefydlu Pwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymwneud gyda phartneriaid allweddol o’r sector cyhoeddus a byd busnes i lywio ein gwaith yn y maes hwn.
- Gweithredwn Y Gronfa Arloesedd ac Ymwneud i gefnogi strategaethau trydedd genhadaeth sefydliadau addysg uwch.
- Ym mis Mawrth 2009 lansiodd CCAUC Fenter Cymorth Economaidd i gefnogi ymdrechion sefydliadau AU i leddfu effaith y dirwasgiad economaidd presennol ar unigolion a chyflogwyr.
- Mae CCAUC, ar y cyd â’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a chyrff cyllido eraill y DU, hefyd yn cefnogi menter ymchwil dair blynedd o hyd sy’n edrych ar Effaith Sefydliadau AU ar Economïau Rhanbarthol.
Rydym hefyd yn rheoli’r rhaglen GO Wales i wella rhagolygon gwaith graddedigion.

