Datganiadau i'r wasg 2011
- Archebwch eich lle ar gyfer Cynhadledd Dysgu ac Addysgu genedlaethol gyntaf Cymru
- Dyddiad: 5 Rhagfyr 2011
- Mae'r Academi Addysg Uwch wedi agor y system i archebu lle ar Gynhadledd Dysgu ac Addysgu genedlaethol gyntaf Cymru. Cynhelir cynhadledd gyntaf Cyfeiriadau'r Dyfodol - Graddedigion ar gyfer Ein Dyfodol ar 26 Ebrill 2012 ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.
- Prifysgolion yn parhau i gael effaith bositif ar yr economi
- Dyddiad: 15 Medi 2011
- Mae degfed arolwg blynyddol ar sut mae prifysgolion yn gweithio gyda busnes ac yn cynhyrchu busnes yn dangos eu bod yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.
- Sgôr boddhad myfyrwyr yn parhau yn uchel ym mhrifysgolion a cholegau Cymru
- Dyddiad: 17 Awst 2011
- Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol wedi dangos fod lefel boddhad cyffredinol myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru wedi parhau i fod yn uchel, gydag 83% o’r rheini a ymatebodd yn nodi eu bod yn fodlon â’u cyrsiau.
- Prifysgolion a cholegau’n cael caniatâd i godi ffioedd uwch
- Dyddiad: 11 Gorffennaf 2011
- Mae CCAUC wedi cymeradwyo cynlluniau ffioedd 13 o brifysgolion a cholegau yng Nghymru, a gallant bellach gynyddu eu ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau israddedig o’r flwyddyn academaidd 2012.
- Gwybodaeth newydd yn helpu myfyrwyr i ddewis eu cwrs
- Dyddiad: 28 Mehefin 2011
- O’r flwyddyn nesaf bydd mwy o wybodaeth ar gael i ddarpar fyfyrwyr i’w helpu i ddewis y cwrs sy’n iawn iddynt hwy.
- Cyngor Cyllido yn galw ar Brifysgolion i Gyflwyno Cynlluniau Ffioedd
- Dyddiad: 05 Ebrill 2011
- Heddiw mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn gwahodd prifysgolion Cymru i gyflwyno cynlluniau mewn perthynas â ffioedd myfyrwyr uwch ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13.
- Gwobrwyo prifysgolion am ymateb i anghenion lleol
- Dyddiad: 01 Ebrill 2011
- Mae lleoedd ychwanegol ym maes peirianneg awyrofod, Gradd Sylfaen mewn animeiddio cyfrifiadurol a Gradd Meistr mewn cyfrifiadura perfformiad uchel yn dri yn unig o feysydd a fydd yn derbyn cyllid ‘rhanbarthol’ gan CCAUC yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
- Prifysgolion Cymru yn cyrraedd grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol
- Date: 31 Mawrth 2011
- Mae’r ffigurau diweddaraf am natur y boblogaeth o fyfyrwyr yn sector addysg uwch y DU yn dangos bod prifysgolion a cholegau Cymru yn parhau i wneud yn dda wrth ehangu cyfranogiad ymhlith grwpiau sydd yn draddodiadol wedi cael llai o brofiad o addysg uwch.
- Cyllid ar gyfer addysg uwch yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd 2011/12
- Dyddiad: 31 Mawrth 2011
- Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cyhoeddi sut y caiff cyfanswm o £377.1 filiwn ar gyfer addysg uwch yng Nghymru ei ddyrannu yn y flwyddyn academaidd (BAc) 2011/12.
- Penodi cyfarwyddwyr cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Dyddiad: 24 Mawrth 2011
- Mae cyfarwyddwyr cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a fydd yn gweithio gyda a thrwy bob prifysgol yng Nghymru i ddarparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi cael eu penodi.
- Cynlluniau i ehangu mynediad i addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol
- Dyddiad: 28 Chwefror 2011
- Mae ymrwymiad pwysig newydd i helpu prifysgolion a cholegau yng Nghymru i ehangu mynediad i addysg uwch (AU) wedi cael ei gyhoeddi gan CCAUC.
- Prifysgolion Cymreig yn sicrhau arian ar gyfer canolfan hyfforddi i ôl-raddedigion
- Dyddiad: 10 Chwefror 2011
- Mae consortiwm o brifysgolion o Gymru wedi cael ei ddewis i gynnal Canolfan Hyfforddi Ddoethurol, a fydd yn darparu cymorth a hyfforddiant ar gyfer hyd at 115 o ôl-raddedigion y flwyddyn yng Nghymru.

