Newyddion 2011
- Datganiad CCAUC ar adroddiadau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ar Brifysgol Cymru
- Dyddiad: 21 Mehefin 2011
- Buom yn cynnal trafodaethau dwys gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) yn ystod y misoedd diwethaf ar faterion yn ymwneud â Phrifysgol Cymru. Bu gennym bryderon ynghylch buddiannau myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni a ddilysir gan y Brifysgol, ynghylch enw da’r Brifysgol ei hun, ac ynghylch canlyniadau, drwy gysylltiad, unrhyw agweddau negyddol ar weithgareddau’r Brifysgol ar gyfer enw da’r holl brifysgolion yng Nghymru.
- Mae’r adroddiadau sydd bellach wedi’u cyhoeddi gan yr ASA yn tynnu sylw at amrywiaeth o ddiffygion difrifol ym mhrosesau canolog y Brifysgol ac yn ei chysylltiadau â sawl partner-sefydliad, a methiant y Brifysgol i sicrhau rheolaeth briodol dros y materion hyn. Mae angen ymateb effeithiol a hynny ar fyrder. Mae’r ASA yn cytuno ar Gynllun Gweithredu gyda’r Brifysgol, a byddwn yn gweithio’n agos â’r ASA a Chyngor Prifysgol Cymru (y corff sydd â chyfrifoldeb yn y pen draw) i sicrhau y caiff ei gyflawni.
- Byddwn hefyd yn rhoi sylw i’r datblygiadau hyn wrth ystyried y trafodaethau cyfuno presennol yn ymwneud â Phrifysgol Cymru.
- Adroddiadau'r ASA (QAA) ar Brifysgol Cymru
- Datganiad ar gynlluniau ffioedd
- Dyddiad: 16 Mehefin 2011
- Roedd yn rhaid i unrhyw sefydliad sy’n bwriadu codi mwy na £4,000 ar gyfer myfyrwyr cymwys gyflwyno Cynllun Ffioedd i CCAUC. Mae’r cynlluniau hyn yn manylu ar y buddsoddiadau y bwriadant eu gwneud, gan ddefnyddio cyfran o’r incwm newydd hwn, er mwyn hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch. Rhaid i CCAUC gytuno ar bob cynllun cyn y gellir codi’r ffioedd newydd.
- Rydym bellach wedi ysgrifennu at bob un o’r deg sefydliad addysg uwch a phedwar coleg addysg bellach a gyflwynodd gynlluniau ffioedd erbyn 31 Mai, gan nodi nad yw’r cynlluniau yn eu ffurf bresennol yn bodloni’r gofynion angenrheidiol. Disgwyliwn dderbyn cynlluniau diwygiedig, sy’n cymryd i ystyriaeth y pryderon a fynegwyd gennym wrth sefydliadau unigol, erbyn diwedd Mehefin neu’n fuan iawn wedyn.
- Nid ydym yn bwriadu rhoi sylwadau ar gyflwyniadau a bwriadau’r sefydliadau cyn gwneud cyhoeddiad ar eu derbyn neu eu gwrthod yn derfynol ar 11 Gorffennaf 2011.
- Llythyr CCAUC at sefydliadau (Saesneg yn unig).
- Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
- Dyddiad: 03 Mawrth 2011
- Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yw’r system newydd ar gyfer asesu ansawdd yr ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch y DU.
- Mae pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU bellach wedi cyhoeddi penderfyniadau ar y fframwaith eang ar gyfer asesu dylanwad ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a’r pwysiadau ar gyfer y tair elfen asesu: allbynnau, dylanwad ymchwil ac amgylchedd. Mae hyn yn dilyn cwblhau ymarfer peilot ledled y DU yn ddiweddar i brofi a datblygu’r trefniadau ar gyfer asesu dylanwad ymchwil. Mae dwy o brifysgolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr ymarfer peilot, a oedd yn ddefnyddiol iawn o ran mireinio’r trefniadau newydd.
- Cafodd enwau aelodau’r panel asesu eu cyhoeddi hefyd.
Dolenni