Newyddion 2010
- Datblygiadau ynglŷn â chyllido addysg uwch yng Nghymru
- Dyddiad: 22 Rhagfyr 2010
- Datganiad gan CCAUC ar gyllid i brifysgolion yng Nghymru.
- Grant CCAUC i Wasg Prifysgol Cymru
- Dyddiad: 10 Rhagfyr 2010
- Datganiad ar gyllid CCAUC ar gyfer Gwasg Prifysgol Cymru
- Llywodraeth Cynulliad Cymru'n datgelu dyfodol ffioedd
- Dyddiad: 30 Tachwedd 2010
- Mae Gweinidog Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud datganiad ynglŷn â ffioedd dysgu yn y dyfodol i'r holl fyfyrwyr prifysgol israddedig sy'n hanu o Gymru.
- O safbwynt CCAUC, byddwn yn aros am arweiniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac yna byddwn yn ystyried sut i wneud y defnydd gorau o’r holl adnoddausydd ar gael i sicrhau bod gennym y gyfundrefn addysg uwch gryfaf bosibl yng Nghymru, er budd i fyfyrwyr a'r prifysgolion, ac sy’n canolbwyntio ar amcanion allweddol Er Mwyn Ein Dyfodol, sef cyfiawnder cymdeithasol a chefnogi economi bywiog.
- Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Dyddiad: 18 Tachwedd 2010
- Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Mae’r gyllideb ddrafft yn setliad heriol iawn i’r sector addysg uwch. Bydd angen i ni ystyried y goblygiadau’n ofalus ac, ar ôl i’r gyllideb derfynol gael ei chyflwyno, sicrhau bod ein penderfyniadau cyllido yn ei gwneud hi’n bosibl i’r sector barhau i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad.
- Y diweddaraf am y Coleg Ffederal
- Dyddiad: 18 Hydref 2010
- Y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r Coleg Ffederal, a fydd yn cynnal, datblygu a goruchwylio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru.
- Dyddiad: 14 Hydref 2010
- Gwahoddir ceisiadau am swydd Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol arfaethedig. Mae'r dyddiad cau wedi'i ymestyn tan 19 Tachwedd 2010.
Manylion pellach
Ffurflen gais
- Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
- Dyddiad: 10 Gorffennaf 2010
- Mae David Willetts, Gweinidog Gwladol i Brifysgolion a Gwyddoniaeth, wedi cadarnhau yr amserlen ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). Cynhelir y cyfnod asesu yn 2014, a dosbarthwn ein cyllid ymchwil ar sail y canlyniadau o 2015/16 ymlaen. Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ydy’r dull newydd o asesu ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.
- Bwletin ynglŷn â'r Coleg Ffederal
- Dyddiad: 25 Mehefin 2010
- Y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r Coleg Ffederal, a fydd yn cynnal, datblygu a goruchwylio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru.
- Gweinidog yn cyhoeddi ailbenodi Cadeirydd
- Dyddiad: 25 Mai 2010
- Cyhoeddodd Leighton Andrews, Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, fod Roger Thomas OBE wedi cael ei ailbenodi’n Gadeirydd CCAUC am y cyfnod o 5 Mai 2011 hyd 4 Mai 2014.
- http://wales.gov.uk/newsroom/educationandskills/2010/100525appointments/?skip=1&lang=cy
- Penodiadau diweddaraf i’r Cyngor
- Dyddiad: 1 Ebrill 2010
- Cyhoeddodd y Gweinidog fod pedwar aelod newydd wedi cael eu penodi i’r Cyngor: Bethan Guilfoyle CBE; James Bennett; Nina Park a David Mason, a bod yr Athro Mari Lloyd-Williams wedi cael ei hailbenodi.
- http://wales.gov.uk/newsroom/educationandskills/2010/100401Minister/?skip=1&lang=cy
- Recriwtio Cadeiryddion Prif Banel i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
- Dyddiad: 31 Mawrth 2010
- Mae pedwar corff cyllido addysg uwch y DU ar hyn o bryd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Cadeiryddion Prif Banel i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, sef y system newydd ar gyfer asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch.
- Gellir cael gwybodaeth bellach yma.
- Lle gwag ar Bwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymwneud CCAUC
- Dyddiad: 25 Mawrth 2010
- Rydym ar hyn o bryd yn gwahodd ceisiadau gan aelodau staff academaidd sydd â chryn brofiad o ymchwil i lenwi swydd wag ar ein Pwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymwneud.
- Prif rôl y Pwyllgor yw cynghori’r Cyngor ar strategaethau ar gyfer ymchwil, arloesedd ac ymwneud, a bod yn ffynhonnell syniadau ac ymagweddau newydd ac yn seinfwrdd ar eu cyfer. Bydd yn cyfarfod dair neu bedair gwaith y flwyddyn yng Nghaerdydd. Swydd ddi-dâl yw hon ac mae am gyfnod penodedig (hyd at dair blynedd).
- Byddem yn croesawu ceisiadau gan aelodau staff academaidd sydd wedi cyflawni’n helaeth ym maes ymchwil, sy’n gwneud gwaith ymchwil ar hyn o bryd, ac sydd â diddordeb mewn polisi addysg uwch cysylltiedig. Mae aelodaeth y Pwyllgor eisoes yn cynnwys Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) felly mae’r penodiad presennol yn debygol o fod ar lefel fwy gweithredol.
- Caiff y penodiad ei wneud ar sail teilyngdod ac arbenigedd, a chymerir i ystyriaeth y gynrychiolaeth sefydliadol a daearyddol bresennol ar y Pwyllgor a’r angen am aelodaeth amrywiol.
- Gwybodaeth bellach am y Pwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymwneud.
- Dylid anfon ymholiadau anffurfiol at Teresa Cooper (029 2068 2304) neu Linda Tiller, Cyd Ysgrifenyddion Pwyllgor.
- I wneud cais am y swydd hon ar y Pwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymwneud, byddwch cystal â llenwi’r ffurflen sydd ynghlwm a darparu copi o’ch CV. Dylech e-bostio eich cais i Sheridan Nott erbyn 23 Ebrill 2010.
- Cyhoeddiad gan Gadeiryddion Addysg Uwch Cymru (CAUC):
Prifysgolion yn ymateb i'r her o'u blaen - Dyddiad: 04 Mawrth 2010
- Mae penaethiaid a llywodraethwyr prifysgolion wedi cyfarfod i drafod rheoli a llywodraethu prifysgolion ar ganol dirwasgiad economaidd.
- Rhoddodd y Gynhadledd Datblygu Llywodraethwyr sylw i wahanol dopigau, gan gynnwys sicrhau iechyd ariannol a chynaliadwyedd prifysgolion a chynnal ysbryd staff yn ystod cyfnodau anodd, a bu’n trafod priodweddau hanfodol prifysgol yn yr unfed ganrif ar hugain.
- Rhoddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, y brif araith yn y digwyddiad a gynhaliwyd ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd adolygiad o lywodraethu mewn addysg uwch.
- Trefnwyd y gynhadledd gan Gadeiryddion Addysg Uwch Cymru, y Sefydliad Arweinyddiaeth, Addysg Uwch Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
- Meddai Andrew Wilkinson, Cadeirydd CAUC: “Bu’r gynhadledd yn amhrisiadwy o ran helpu llywodraethwyr ac arweinwyr prifysgolion i ymdrin yn effeithiol â her y dirwasgiad economaidd. Mae prifysgolion yn manteisio ar y cyfle i barhau i symud ymlaen er gwaethaf yr amodau anodd. Llwyddodd y cyflwyniadau a’r trafodaethau i hoelio sylw ar yr angen i sicrhau bod prifysgolion yn gynaliadwy ac yn parhau i wneud eu cyfraniad pwysig i gymdeithas ac economi Cymru.”
- Meddai Roger Thomas, Cadeirydd CCAUC: “Mae’r gymuned addysg uwch yng Nghymru yn benderfynol o fynd i’r afael â’r her o wella gweithgareddau prifysgolion yn barhaus mewn dirwasgiad economaidd. Trefnwyd y digwyddiad llwyddiannus hwn i roi cyfle i’r prifysgolion ddysgu gwersi oddi wrth ei gilydd a rhannu arfer gorau. Byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd llywodraethu prifysgolion yn effeithiol, a byddwn yn gweithio gyda’r Sefydliad Arweinyddiaeth i ddatblygu gweithdai pellach a fydd yn adeiladu ar themâu’r dydd.”

