Digwyddiadau 2012
- Archebwch eich lle ar gyfer cynhadledd Cyfeiriadau’r Dyfodol genedlaethol gyntaf Cymru
- Dyddiad: 26 Ebrill 2012
Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Mae'r Academi Addysg Uwch wedi agor y system i archebu lle ar gynhadledd gyntaf Cyfeiriadau'r Dyfodol - Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol. Diben y gynhadledd fydd arddangos a dathlu thema gwella ansawdd, sef y thema gyntaf ar gyfer Cymru gyfan - Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol, ac mae iddi dri llinyn gwaith: Myfyrwyr fel Partneriaid; Dysgu mewn Gwaith; a Dysgu ar gyfer Gwaith.
- Cyfeiriadau’r Dyfodol – Graddau Sylfaen: Dod â pholisïau ac ymarfer at ei gilydd
- Dyddiad: 29 Chwefror 2012
- • lwybrau cyflogwyr a dysgu seiliedig ar waith ar gyfer Graddau Sylfaen
- • datblygiad sefydliadol Graddau Sylfaen
- • meysydd polisi perthnasol.
Canolfan Gynadledda Morgannwg, Prifysgol Morgannwg
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar waith Cymru wrth greu a datblygu Graddau Sylfaen hyd yn hyn ac yn y dyfodol.
Bydd y sesiynau rhyngweithiol yn canolbwyntio ar:
- Seminar: Astudiaeth ran amser mewn addysg uwch i annog economi fywiog a chynhwysiant cymdeithasol
- Date: 23 Chwefror 2012
- • astudiaeth ran amser
- • darpariaeth ran amser sy'n canolbwyntio ar gyflogwyr ym maes AU
- • cyfleoedd ar gyfer dilyniant o addysg bellach yng Nghymru
Gwesty'r Park Plaza, Caerdydd, 10:00 – 16:00
Rydym yn gwahodd uwch gynrychiolwyr o brifysgolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn:
i'n helpu i lunio ein cyngor i Lywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2012. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar sut mae astudiaeth ran amser yn gysylltiedig â symudedd cymdeithasol ac uwchsgilio'r gweithlu, yn cynnwys dysgu hyblyg a datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd siaradwyr eraill o Lywodraeth Cymru, CCAUC a'r Brifysgol Agored.
I gofrestru, cysylltwch â Craig Brett: 029 2068 2279, craig.brett@hefcw.ac.uk

