Digwyddiadau
- Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol CCAUC
- Dyddiad: 29 Hydref 2010
-
Rydym yn eich gwahodd academyddion, myfyrwyr, busnesau a'r cyhoedd i Gyfarfod Cyhoeddus Blynyddol CCAUC yn:
Swyddfeydd CCAUC, Y Berllan, Llanisien, Caerdydd
I fynychu’r cyfarfod, bydd rhaid i chi nodi ymlaen llaw y byddwch yn bresennol drwy e-bostio info@hefcw.ac.uk, neu ffoniwch 029 2079 1861.
Dydd Gwener, 29 Hydref 2010
10:00 y bore – 11:30 y bore
(Tê a choffi o 9.30) Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn gyfle i ystyried gyflawniadau diweddaraf addysg uwch yng Nghymru a thrafod y materion bydd yn effeithio prifysgolion yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd y cyfarfod hefyd yn gyfle i ni lawnsio ein adroddiad blynyddol.
- Cynhadledd Datblygu Llywodraethwyr
- Dyddiad: 3 Mawrth 2010
- Y brif araith gan y dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
- Trawsgrifiad araith y Gweinidog (Saesneg yn unig)
- Mae penaethiaid a llywodraethwyr prifysgolion wedi cyfarfod i drafod rheoli a llywodraethu prifysgolion ar ganol dirwasgiad economaidd.
- Rhoddodd y Gynhadledd Datblygu Llywodraethwyr sylw i wahanol dopigau, gan gynnwys sicrhau iechyd ariannol a chynaliadwyedd prifysgolion a chynnal ysbryd staff yn ystod cyfnodau anodd, a bu’n trafod priodweddau hanfodol prifysgol yn yr unfed ganrif ar hugain.
- Rhoddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, y brif araith yn y digwyddiad a gynhaliwyd ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd adolygiad o lywodraethu mewn addysg uwch.
- Trefnwyd y gynhadledd gan Gadeiryddion Addysg Uwch Cymru, y Sefydliad Arweinyddiaeth, Addysg Uwch Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

