Cwestiynau cyffredin
Dyma’r atebion i rai cwestiynau cyffredin, yn ogystal â chysylltau lle y gallwch gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid yn cael ei ddyrannu drwy fformiwla ar hyn o bryd.
Rydym yn cyllido’r 11 sefydliad addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru yw prif ariannwr colegau addysg bellach, er bod CCAUC yn ariannu’r rhan fwyaf o gyrsiau addysg uwch mewn colegau AB.
Mae CCAUC yn ariannu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac nid yw’n ariannu myfyrwyr ar gyfer eu hastudiaethau.
Er nad yw CCAUC yn ariannu prosiectau ymchwil unigol, efallai gall y Cynghorau Ymchwil gynnig arian.
Mae’r adran 'Astudio yng Nghymru' yn y wefan hon yn eich cyfeirio at wefannau defnyddiol.
Mae ein hadran 'Hyfforddi i fod yn athro' yn eich cyfeirio at wefannau defnyddiol..
Mae adran Ansawdd ein gwefan yn rhoi gwybodaeth am asesu addysgu.
Mae adran Asesu Ymchwil ein gwefan yn rhoi gwybodaeth am asesu ymchwil.
Gweler ein tudalennau ystadegau yma.
Nid ydym yn ymwneud ag anghydfodau rhwng myfyrwyr neu staff a’u sefydliadau, ond gallwn ymwneud â materion ynghylch a yw’r arian yr ydym yn ei ddyfarnu i brifysgolion a cholegau yn cael ei ddefnyddio’n iawn.
Mae gan bob prifysgol a choleg ei drefniadau cwyno, apelio ac achwyn ei hun. Os ydych yn aelod staff neu’n fyfyriwr sydd â chwyn, dylech wneud yn siwr eich bod chi wedi bod drwy’r drefn briodol cyn cymryd camau pellach. Mae’n bosibl y gallwch ddatrys rhai materion yn anffurfiol os ceisiwch gyngor ymlaen llaw o ffynonellau mewnol o fewn eich sefydliad (eich tiwtor, cynrychiolydd y cwrs, swyddog lles myfyrwyr neu undeb myfyrwyr).
Os ydych yn fyfyriwr ac os ydych wedi mynd drwy bob cam o drefn gwyno fewnol eich prifysgol - ac os ydych wedi derbyn eich llythyr ‘Cwblhau’r Gweithdrefnau’ - ond yn parhau’n anfodlon, mae Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (OIA) yn cynnig cynllun annibynnol sy’n adolygu cwynion myfyrwyr.
Hefyd, gweler gwefan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr.
