Skip to page content
This is a placeholder image

Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC

Yr Athro Syr Brian Smith

Yr Athro Syr Brian Smith

Penodwyd: 1 Rhagfyr 2002 hyd 30 Tachwedd 2005; 1 Rhagfyr 2005 hyd 30 Tachwedd 2008; 1 Rhagfyr 2008 hyd 30 Tachwedd 2011

Penodwyd Syr Brian yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ym 1993, ac ymddeolodd yn 2001. Cyn hynny bu’n feistr Coleg y Santes Catherine ym Mhrifysgol Rhydychen. Cafodd ei urddo’n farchog ym 1999, mewn cydnabyddiaeth o’i lwyddiant i adeiladu cysylltiadau o fudd i’r naill ochr a’r llall rhwng y Brifysgol, diwydiant a masnach. Hefyd bu Syr Brian yn gwasanaethu gydag Awdurdod Datblygu Cymru o fis Hydref 1998, gan helpu i agor marchnadoedd i Gymru yn India a China. Mae Syr Brian yn Llysgennad Rhyngwladol dros Brifysgol Caerdydd.  

Datganiadau Buddiannau - Personol
Llysgennad rhyngwladol ar gyfer Prifysgol Caerdydd (tâl o £10,000 y flwyddyn)
Cyfarwyddwr Higher Aims Ltd., gwasanaeth ymgynghori academaidd mewn addysg uwch (dim cyflog, nid yw’n gweithredu yng Nghymru)
Aelod o’r Bwrdd, Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl

Aelodau'r Cyngor

Skip to top of page or to page menu