Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC
Yr Athro Robin Williams
Penodwyd: 1 Awst 2009 hyd 30 Gorffennaf 2012
Yr Athro Robin Williams oedd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe o 1994 hyd 2003. Cyn hynny roedd yn Bennaeth Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd lle yr oedd yn Is-Ganghellor hefyd. Mae ei brif ddiddordebau ymchwil ym meysydd ffiseg led-ddargludol, dyfeisiau electronig uwch a nanodechnoleg ac mae ef wedi cyhoeddi dros 300 o bapurau a llyfrau academaidd. Roedd llawer o’i ymchwil yn cynnwys cydweithio â diwydiant ar hyd a lled y byd ac mae ef wedi cadeirio amrywiaeth eang o bwyllgorau cenedlaethol a rhyngwladol ym meysydd ffiseg a pheirianneg, gan gynnwys pwyllgorau Cynghorau Ymchwil y DU. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a rhoddwyd CBE iddo am ei gyfraniad at ymchwil ac addysg uwch. Mae ef wedi gwasanaethu ar y Grwpiau Cynghori Gweinidogion ar gyfer datblygu economaidd ac ar gyfer addysg yng Nghymru ac roedd yn aelod o’r grŵp a sefydlwyd i adolygu addysg uwch. Mae’n Gymro Cymraeg ac yn ddiweddar bu’n cadeirio’r Bwrdd Cynllunio a sefydlwyd i gynhyrchu adroddiad annibynnol ar fodel ar gyfer y Coleg Ffederal a sefydlwyd bellach fel Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
| Datganiadau Buddiannau |
|---|
| Parti cysylltiedig: Merch yn cael ei chyflogi gan Brifysgol Abertawe |
| Aelodaeth Ddeuol: Aelod, Grŵp Cynghori Gweinidogion, DE&T, Llywodraeth Cymru |
| Aelod o’r Cyngor, Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru |
| Aelod o'r Gyngor, Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) |
| Aelod o’r Cyngor ac Is-Gadeirydd, Techniquest |
| Aelod, Grŵp Ymgynghorol Allanol ar gyfer Peirianneg, Prifysgol Abertawe |
| Aelod o’r Bwrdd Cynghori, CAFMAF, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth |
| Aelod o’r Cyngor, Cymdeithas Ddysgedig Cymru |

