Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC
Yr Athro Philip Gummett - Prif Weithredwr
Penodwyd: Mai 2004
Yr Athro Gummett yw Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Ymunodd â’r Cyngor o Brifysgol Manceinion lle’r oedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor, yn gyn Bennaeth yr Adran Llywodraeth ac yn Athro Llywodraeth a Pholisi Technoleg. Roedd yn un o sefydlwyr ac yn gyfarwyddwr anweithredol PREST (Ymchwil Polisi mewn Peirianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg) ym Manceinion – un o’r canolfannau ymchwil polisi mwyaf blaenllaw yn y byd. Mae ef hefyd yn gyn aelod ac yn gyn Gadeirydd Bwrdd yr Arholwyr, Bwrdd Hyfforddiant y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae'n gydymaith y Sefydliad Rheolwyr Siartredig.
| Datganiadau Buddiannau | |
|---|---|
| Personol: Dim | |
| Teulu: Cyflogir gwraig Yr Athro Gummett fel tiwtor TAR rhan-amser ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. | |

