Skip to page content
This is a placeholder image

Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC

Yr Athro Mari Lloyd-Williams

Yr Athro Mari Lloyd-Williams

Penodwyd: 1 Ionawr 2007 hyd 31 Rhagfyr 2009; 1 Ionawr 2010 hyd 31 Rhagfyr 2012

Ers 2003 mae’r Athro Lloyd-Williams wedi dal cadair bersonol yng Nghyfadran Meddygaeth Prifysgol Lerpwl, ble y mae hefyd yn ymgynghorwr mewn meddygaeth liniarol ac yn Gyfarwyddwr un o gymunedau addysg feddygol mwyaf y DU. Yn ddiweddar roedd yn Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ac yn Arweinydd Meddygol Hosbis LOROS, Caerlŷr. Mae hi’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei hymchwil i agweddau seicogymdeithasol ar ganser mewn perthynas â chleifion a theuluoedd, ac i ofal lliniarol ar gyfer cleifion nad ydynt yn dioddef o ganser. Mae hi hefyd yn brif ymchwilydd ar gyfer sawl grant mawr. Mae ganddi brofiad eang o gadeirio ac eistedd ar bwyllgorau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys, ar hyn o bryd, pwyllgor ymddygiad proffesiynol y Cyngor Meddygol Cyffredinol a phwyllgor yr Adran Iechyd ar ofal seicogymdeithasol. Yn rhugl yn y Gymraeg, mae hi’n cymryd rhan weithgar ym mywyd ei chymuned leol, fel un o ymddiriedolwyr hosbis Sant Kentigern a chapel y Cynulleidfawyr, ac fel ynad.  

Datganiadau Buddiannau - Personol
Merch: myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd
Mab: myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor

Aelodau'r Cyngor

Skip to top of page or to page menu