Skip to page content
This is a placeholder image

Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC

Yr Athro (Katherine) Leni Oglesby

Athro Leni Oglesby

Penodwyd: 1 Rhagfyr 2008 hyd 30 Tachwedd 2011; 1 Rhagfyr 2011 hyd 30 Tachwedd 2014

Mae’r Athro Oglesby wedi dal swyddi academaidd ac uwch reolwr ym mhrifysgolion Caerlŷr, Sheffield, Caerhirfryn, Surrey a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion, a bu ar secondiad i Adran Polisi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr. Mae ganddi brofiad helaeth o asiantaethau rhyngwladol, Ewropeaidd, cenedlaethol a rhanbarthol, gan gynnwys y Cyngor Rhyngwladol dros Addysg Oedolion, y Swyddfa Ewropeaidd Addysg Oedolion, Cymdeithas Dysgu Gydol Oes y Prifysgolion, a’r Gymdeithas dros Ymchwil mewn Addysg Uwch. Bu Leni’n aelod o wahanol baneli CCAULl (HEFCE) a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, yn ymwneud ag amryfal feysydd megis cydnabod canolfannau rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu, AU mewn AB, pwerau dyfarnu graddau’r sefydliadau, sicrhau ansawdd a chydweithio â chyflogwyr. Graddiodd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ymgymerodd ag astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerlŷr. Mae hi hefyd yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Ar hyn o bryd mae hi’n aelod o Bwyllgor Cynghori Strategol ar Ehangu Cyfranogiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr.  

Datganiadau Buddiannau - Parti cysylltiedig
Aelod, Pwyllgor Cynghori Strategol ar Ehangu Mynediad a Chyfranogiad, CCAULl

Aelodau'r cyngor

Skip to top of page or to page menu