Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC
Bethan Guilfoyle
Penodwyd: 1 Ebrill 2010 hyd 31 Mawrth 2013
Roedd Bethan yn brifathrawes Ysgol Gyfun Treorci ym mhen uchaf Cwm Rhondda Fawr -ysgol o 1,560 o fyfyrwyr, gan gynnwys 325 o fyfyrwyr chweched dosbarth - o 1996 tan 2011.
Mae hi’n aelod o’r Grŵp Cynghori Gweinidog ar gyfer yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ac yn un o lywodraethwyr Prifysgol Morgannwg ers 2001. Bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Materion Myfyrwyr y Corff Llywodraethu ers pedair blynedd.
Ym mis Ionawr 2010 derbyniodd CBE am ei gwasanaeth i addysg yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.
| Datganiadau Buddiannau - Personol |
|---|
| Cadeirydd (Cyfarwyddwr Anweithredol), Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru |
| Gwaith rhan-amser i Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf |

