Skip to page content
This is a placeholder image

Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC

Roger Thomas - Cadeirydd

Mr Roger Thomas

Penodwyd: 5 Mai 2008 hyd 4 Mai 2011; 5 Mai 2011 hyd 4 Mai 2014

Bu Roger Thomas OBE, CCMI, FRSA, OStJ yn Gadeirydd Llywodraethwyr a Dirprwy Ganghellor Prifysgol Morgannwg ac yn Gadeirydd Cadeiryddion Addysg Uwch Cymru. Yn rhinwedd y swydd ddiwethaf roedd yn aelod o grwp cadeiryddion Pwyllgor Cadeiryddion y Brifysgol (CUC) a hefyd yn aelod o’r Bwrdd Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau (UCEA); a Chydbwyllgor Trafod Staff Addysg Uwch.

Y tu allan i Addysg Uwch, mae Roger yn Gyfarwyddwr Business in Focus Ltd (asiantaeth fenter), aelod o Gyngor CBI Cymru, Uchel Siryf De Morgannwg 2011-12 a barnwr Llys Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru. Gynt roedd yn uwch bartner cyfreithwyr Eversheds Caerdydd, is-lywydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, cyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru, aelod o Gyngor Techniquest, Ymgynghorydd Partneriaeth Fusnes y Cynulliad Cenedlaethol ac yn aelod o Gyngor Prifysgol Caerdydd.

Datganiadau Buddiannau - Personol
Cyn Gadeirydd y Llywodraethwyr, Prifysgol Morgannwg
Cyn aelod o’r Cyngor, Prifysgol Caerdydd
Doethur Anrhydeddus, Prifysgol Morgannwg
Aelod, Grŵp Cynghori’r Gweinidog, APADGOS
Cyfarwyddwr, Business in Focus Ltd.
Cyfarwyddwr, Cardiff and Vale Enterprise International Ltd.
Aelod, Cyngor Cymreig y CBI
Barnwr y Llys Taleithiol, yr Eglwys yng Nghymru, Aelod o Bwyllgor Rheolau’r Eglwys yng Nghymru
Cadeirydd, Pwyllgor Archwilio a Risg, Priordy Cymru Urdd Hybarchaf Sant Ioan o Jerwsalem (Sant Ioan yng Nghymru)
Uchel Siryf De Morgannwg 2011-12

Aelodau'r Cyngor

Skip to top of page or to page menu