Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC
James Bennett
Mae Jim Bennett wedi cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau gyda Chyngor CCAUC am flwyddyn o 30 Mehefin 2010 tra bydd yn Brifathro dros dro Coleg Gwent.
Penodwyd: 1 Ebrill 2010 hyd 31 Mawrth 2013
Mae James Bennett wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl gweithio am dros bedair blynedd fel Pennaeth Coleg South Tyneside, coleg mawr ac amrywiol iawn gyda phortffolio addysg uwch (AU) o fwy na 1,000 cyfwerth amser llawn o fyfyrwyr.
Cyn hynny bu’n gweithio am saith mlynedd fel Dirprwy Bennaeth ac Is-Bennaeth Coleg Llandrillo, Coleg Addysg Bellach (AB) llwyddiannus gyda phortffolio AU mawr ac enw ardderchog am ansawdd ei ddarpariaeth.
Bu’n Arolygwr Ei Mawrhydi yn nhîm ôl-16 Estyn am dair blynedd ac yn Swyddog dros Gymru yn yr Uned Addysg Bellach a’r Asiantaeth Datblygu AB am chwe blynedd, pryd y chwaraeodd rhan bwysig yn natblygiad fframwaith credyd a chymwysterau Cymru a Lloegr.
Mae ganddo brofiad hefyd fel cynghorydd/arolygwr awdurdod lleol yng Nghlwyd a Dorset, darlithydd AB mewn economeg ac arweinyddiaeth a rheolaeth, ac athro economeg mewn ysgol. Bu’n byw yng ngogledd Cymru ers 26 blynedd ac mae wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg yn ystod yr amser hwn.
| Datganiadau Buddiannau - Personol |
|---|
| Outcomes UK: Uwch Ymgynghorydd Rhan-amser a fu’n cynghori Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant. Yn derbyn tâl pro rata |
| Bu’n cynllunio gwaith ymgynghorol i Golegau AB |

