Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC
David Mason
Penodwyd: 1 Ebrill 2010 hyd 31 Mawrth 2013
Ymddeolodd David Mason ym mis Chwefror 2004 ar ôl bod yn Bennaeth/Prif Weithredwr Coleg Gwent am chwe blynedd. Cyn hynny bu’n Bennaeth/Prif Weithredwr Coleg Amersham a Wycombe yn Swydd Buckingham am bum mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn roedd yn aelod o Bwyllgor Rhanbarthol y Cyngor Cyllido Addysg Bellach (AB).
Ar ôl graddio mewn mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ac ennill gradd meistr mewn Ymchwil Gweithredol gan Brifysgol Lerpwl, treuliodd David ei flynyddoedd cynnar ar ôl gadael prifysgol yn y diwydiant cyfrifiadurol. O 1969 dilynodd yrfa mewn addysg bellach ac addysg uwch ac ym 1983 cafodd ei benodi’n Bennaeth Coleg Stroud yn Swydd Gaerloyw.
Gadawodd David y sector AB ym 1987 i ymuno â’r Awdurdod Hedfan Sifil fel Rheolwr Cyffredinol y Coleg Rheoli Traffig Awyr a chafodd ei uwchraddio’n Gyfarwyddwr Recriwtio a Hyfforddi ym 1989. Symudodd i Goleg Amersham a Wycombe fel Pennaeth/Prif Weithredwr ym 1993.
Bu David yn aelod o Fwrdd Cymdeithas y Colegau, yn Is Gadeirydd Fforwm (Colegau Cymru bellach), ac yn Gyfarwyddwr anweithredol Gyrfa Cymru (Gwent) Cyfyngedig. Bu hefyd yn gweithio i Sefydliad y Cyfarwyddwyr fel Swyddog Cyswllt Addysg dros Gymru ac mae Prifysgol Cymru, Casnewydd wedi’i ethol yn Gymrawd Anrhydeddus.
Ers ymddeol, mae David wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ymgynghori rhan-amser ym maes addysg bellach, gan gynnwys dwy swydd fel Pennaeth dros dro, y naill yn rheoli cau coleg a’r llall yn rheoli cyfuno colegau.
| Datganiadau Buddiannau - Personol |
|---|
| Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Merthyr Tudful: is-gwmni Prifysgol Morgannwg |

