Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC
David Allen
Penodwyd: 1 Rhagfyr 2008 hyd 30 Tachwedd 2011; 1 Rhagfyr 2011 hyd 30 Tachwedd 2014
Bu Mr Allen yn Gofrestrydd ac Ysgrifennydd Prifysgol Caerwysg ers 2003. Fel Prif Swyddog Gweithredu mae’n gyfrifol am weithrediadau a llywodraethu effeithiol ac effeithlon yn y Brifysgol. Mae’n rheoli cyllidebau o oddeutu £80 miliwn ac mae’n gyfrifol am 1,500 o staff. Cafodd David ei addysg yn Ysgol Gyfun i Fechgyn y Barri, graddiodd yn Abertawe ym 1973, ac enillodd radd meistr yng Nghaerdydd ym 1986. Dechreuodd ei yrfa mewn rheolaeth prifysgol yng Nghofrestrfa Prifysgol Cymru ym 1976, a symudodd i Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru ym 1981. Ym 1986 cymerodd swydd uwch ym Mhrifysgol Southampton cyn dychwelyd i Gymru ym 1991 fel Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Cynllunio ac Adnoddau Prifysgol Cymru. Ym 1994 cafodd ei benodi’n Gofrestrydd Prifysgol Nottingham ac ym 1998 yn Gofrestrydd ac Ysgrifennydd Prifysgol Birmingham. Ar hyn o bryd mae David yn gwasanaethu ar Fwrdd y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch ac yn gadeirydd ei Bwyllgor Archwilio. Mae’n aelod o Bwyllgor Arweinyddiaeth, Llywodraethu a Rheolaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr a hefyd yn gwasanaethu ar ei Grŵp Cyngor Gwasanaethau a Rennir.
| Datganiadau Buddiannau - Aelodaeth Ddeuol |
|---|
| Aelod, Y Pwyllgor Arweinyddiaeth, Llywodraethu a Rheolaeth, Y Pwyllgor Ymgynghorol Strategol, CCAULl hyd 31 Gorffennaf 2011 |

