Skip to page content
This is a placeholder image

Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC

Nina Park

Ms Nina Park

Penodwyd: 1 Ebrill 2010 hyd 31 Mawrth 2013

Bu Nina Park yn Is-Lywydd Control Techniques ers 2007. Mae Control Techniques yn rhan o Emerson, cwmni amlwladol gwerth $25 biliwn sy’n cyflogi 134,000 o weithwyr. Mae pencadlys y cwmni yn y Drenewydd, Powys ac mae’n gweithgynhyrchu technolegau rheoli moduron a thrawsnewid pŵer ar gyfer cymwysiadau masnachol a diwydiannol. Fel Aelod o’r Bwrdd, mae gan Nina gyfrifoldeb byd-eang dros Adnoddau Dynol.

Graddiodd Nina o Brifysgol Oxford Brookes ym 1997 gyda BA (Anrh) yn Saesneg, y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Hanes ac enillodd Radd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Westminster yn 2004.

Dechreuodd ei gyrfa mewn recriwtio cyn symud i Adnoddau Dynol a bu’n dal nifer o swyddi uwch gydag APL Logistics, Leisure Connection, PriceWaterhouseCoopers a Grŵp Tai Bromford cyn ymuno ag Emerson yn 2005. Mae Nina yn aelod o’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Datblygu a Phersonél (CIPD).

Datganiadau Buddiannau
Cyfarwyddwr Anweithredol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Aelodau'r Cyngor

Skip to top of page or to page menu