Skip to page content
This is a placeholder image

Bywgraffiad aelod Cyngor CCAUC

Y Fonesig Sandra (Alexandra) Burslem

Y Fonesig Sandra Burslem

Penodwyd: 1 Rhagfyr 2008 hyd 30 Tachwedd 2011; 1 Rhagfyr 2011 hyd 30 Tachwedd 2014

Bu’r Fonesig Sandra Burslem yn Is-Ganghellor Prifysgol Fetropolitan Manceinion o 1997 i 2005. Mae hi wedi cael ei phenodi bellach yn Gomisiynydd Gwasanaeth Sifil. Mae hi hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Anrhydeddau Addysg ac yn Gadeirydd Annibynnol cyntaf Partneriaeth Addysg-DU y Cyngor Prydeinig. Mae'r Fonesig Sandra hefyd yn eistedd ar Fyrddau nifer o sefydliadau addysgol, gan gynnwys Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Prifysgol Cumbria a sefydlwyd yn ddiweddar, a Choleg y Ddinas Manceinion, ac mae hi’n Gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gerdd Chetham. Bu'r Fonesig Sandra yn aelod o Fainc Ynadon Dinas Manceinion ers 1981. Derbyniodd OBE am ei gwasanaeth i Addysg Uwch ym 1992 a daeth yn Fonesig Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2004. Roedd hefyd yn Uchel Siryf Sir Fanceinion Fwyaf yn 2006-07.

Datganiadau Buddiannau - Personol
Cadeirydd, Llywodraethwyr Ysgol, Ysbyty ac Ysgol Chethams
Aelod o’r Bwrdd a Chadeirydd Archwilio, Coleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr
Cadeirydd, Partneriaeth Addysg y DU y Cyngor Prydeinig
Cadeirydd, Y Pwyllgor Anrhydeddau Addysg
Is-gadeirydd, OFQUAL
Aelod o’r Bwrdd, Y Pwyllgor Strategaeth a Chynllunio a’r Pwyllgor Enwebiadau, Prifysgol Cumbria

Aelodau'r Cyngor

Skip to top of page or to page menu