Cyngor a Phwyllgorau
Mae ein Cyngor, o hyd at 12 aelod, yn canolbwyntio ar faterion polisi strategol, materion o bwys ac arwyddocâd mawr, a chadw golwg cyffredinol ar ein gweithgareddau. Sefydlwyd pwyllgorau i gynghori’r Cyngor ar feysydd gwaith penodol.
Cynhelir oddeutu wyth cyfarfod o’r Cyngor bob blwyddyn galendr. Hefyd ymwelwn â phob sefydliad yn ei dro a threfnwn nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau.
Amserlen cyfarfodydd a digwyddiadau
Bydd ein Cyngor yn ymgymryd â’i holl fusnes yn unol â’i Reolau Sefydlog.
Ar ôl cael eu penodi, bydd aelodau’r Cyngor yn llofnodi’r Cod Ymarfer ar gyfer Aelodau o Gyngor CCAUC sy’n cynnwys cytundeb i lynu at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
Mae gofyn i aelodau’r Cyngor a’r Pwyllgorau lenwi ffurflen datgan buddiannau ar gyfer y gofrestr gyhoeddus. Mae’r datganiadau o fuddiannau i’w gweld ar y tudalennau gwe Cyngor a Phwyllgorau.
Datganiad Rheoli a Memorandwm Ariannol CCAUC

