Pwyllgorau CCAUC
Cynhaliwyd adolygiad o strwythur ac aelodaeth ein pwyllgorau yn 2008 a lansiwyd y pwyllgorau newydd yn 2009.
- Pwyllgor Penodiadau - mae’n penodi ac ailbenodi unigolion ag arbenigedd addas nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor ar bwyllgorau’r Cyngor, yn ogystal â chynrychiolwyr CCAUC ar bwyllgorau a phaneli allanol.
- Pwyllgor Archwilio a Risg - mae’n rhoi sicrwydd annibynnol i’n Cyngor ynghylch effeithiolrwydd rheolaeth fewnol, trefn lywodraethol gorfforaethol, a rheoli risg.
- Pwyllgor Adnoddau Dynol - mae’n ystyried ac yn cymeradwyo pob mater yn ymwneud â chyflogaeth.
- Pwyllgor Datblygu Strategol - mae’n cynghori ein Cyngor ar gynigion a cheisiadau sefydliadau am brosiectau datblygu strategol ac ailgyflunio a chydweithio.
- Pwyllgor Tâl - mae’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch adolygiad cyflog a pherfformiad y Prif Weithredwr.
- Pwyllgor Ymchwil, Arloesedd ac Ymwneud - mae’n cynghori’r Cyngor ar ei strategaethau ar gyfer gweithgareddau arloesedd, ymwneud (trydedd genhadaeth) ac ymchwil a’r polisïau ac egwyddorion sy’n sail iddynt, gan gynnwys trefniadau cyllido.
- Pwyllgor Profiad Myfyrwyr, Addysgu ac Ansawdd - mae’n cynghori’r Cyngor ar bob mater yn ymwneud â dysgu ac addysgu mewn addysg uwch, i sicrhau bod addysg uwch yng Nghymru yn cwrdd ag anghenion a disgwyliadau dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.
Rhestr gyflawn o aelodau pwyllgorau CCAUC
[Ar gael yn Saesneg yn unig.]
