Sut i wneud cais
I wneud cais am swydd yn CCAUC gallwch naill ai:
- cysylltu â’n Hadran Adnoddau Dynol (gweler y manylion isod) i ofyn am becyn gwneud cais, neu
- lawrlwytho Ffurflen Gais, Arweiniad ar Lenwi Eich Ffurflen Gais, a Llyfryn Gwybodaeth
Ffurflen gais yn y Gymraeg
Ffurflen gais yn y Saesneg
Dogfennau ategol
Arweiniad ar lenwi eich ffurflen gais
Gweithio gyda ni - llyfryn gwybodaeth
Crynodeb telerau ac amodau cyflogaeth
Ar ôl llenwi eich ffurflen gais, byddwch cystal â’i dychwelyd i ni drwy bost neu e-bost. Gweler y manylion cysylltu isod.
Byddwch cystal â nodi Cyfeirnod y Swydd ar bob gohebiaeth a ffurflen gais. Cydnabyddir pob ffurflen gais a dderbynnir drwy e-bost neu a ddychwelir gyda cherdyn post.
Mae CCAUC yn croesawu’n gynnes ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Gwneir penodiadau ar sail teilyngdod.
Croesawn geisiadau a gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Drwy e-bost: hrdepartment@hefcw.ac.uk
Dros y ffôn: 029 2076 1861
Drwy ffacs: 029 2068 2220
Drwy’r post:
Adran Adnoddau Dynol
CCAUC
Cwrt Linden
Clos Ilex
Llanisien
Caerdydd
CF14 5DZ
Mae’r holl wybodaeth a ddarperir ar ein gwefan ar gael mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys CD electronig, CD sain, Braille a phrint mawr drwy wneud cais.



