Gyrfaoedd a datblygiad
Nod CCAUC yw bod yn gorff o unigolion sy’n:
- gweithio’n dda i safonau uchel yn unigol ac mewn grwpiau,
- hoffi her a herio pobl eraill
- cymryd perchenogaeth o’u cyfrifoldebau penodol ac ar ran CCAUC yn ei gyfanrwydd
- gweithio mewn ffordd anffurfiol, agored a chydweithredol
- dysgu oddi wrth a chefnogi ei gilydd a chroesawu amrywiaeth
Ystyriwn fod ein gwerthoedd craidd yn bwysig iawn. Rydym wedi ymrwymo i weithredu ag unplygrwydd, drwy fod yn gyson, geirwir, gonest ac agored wrth gyfathrebu. Rydym wedi ymroi i werthfawrogi a chefnogi ein gilydd yn ein gwaith a chredwn yn gryf mewn gweithio mewn partneriaeth.
Ymdrechwn i edrych i’r dyfodol, gan chwilio bob amser am gyfleoedd newydd a chynllunio ac asesu risgiau’n effeithiol. Ac rydym yn gorff proffesiynol, sy’n chwilio o hyd am ffyrdd o wella ein dulliau gweithio.
Deallwn bwysigrwydd cael staff proffesiynol hynod fedrus sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Rydym wedi ymrwymo i’r safon Buddsoddwyr mewn Pobl ac i sicrhau bod ein staff yn derbyn y gefnogaeth orau.
Byddwch yn cael rhan yn eich asesiad o berfformiad, gosod eich amcanion a phenderfynu ar hyfforddiant a datblygiad a fydd yn eich helpu i gyflawni eich swydd yn fwy effeithiol.
Rhagwelwn y bydd eich rôl yn rhoi ymdeimlad cryf o gyflawniad i chi.



