Gweledigaeth a Chenhadaeth CCAUC
Ein gweledigaeth yw datblygu a chynnal addysg uwch o safon ryngwladol yng
Nghymru, er lles unigolion, cymdeithas ac economi Cymru ac y tu hwnt.
Cenhadaeth
Defnyddiwn gyllid a dderbyniwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill yn
strategol i:
- sicrhau dysgu ac ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf
- cynyddu i’r eithaf gyfraniad addysg uwch i ddiwylliant, cymdeithas ac economi
- sicrhau hyfforddiant athrawon achrededig o safon uchel ar hyd a lled Cymru.
Ein fframwaith strategol
Ehangu Mynediad
Sicrhau tegwch, cyfle a llwyddiant mewn addysg uwch.
Profiad y Myfyrwyr
Sicrhau bod profiad y myfyrwyr o ansawdd uchel.
Sgiliau
Sicrhau bod pawb sy’n graddio yn barod am fyd gwaith a’u rôl fel dinasyddion.
Trosglwyddo Gwybodaeth
Sicrhau perthnasoedd mwy cynhyrchiol rhwng sefydliadau addysg uwch a’r sectorau
cyhoeddus a phreifat, cymunedau lleol ac asiantaethau eraill.
Ymchwil
Sicrhau gwell perfformiad ymchwil a fydd yn sylfaen i’r economi gwybodaeth ac
adfywiad diwylliannol a chymdeithasol.

