Safonau gwasanaeth
Ein nod yw sicrhau ein bod ni'n gweithio'n effeithlon ac effeithiol wrth ymdrin â'n rhan ddeiliad a'r cyhoedd, ac yn rhoi gwerth am yr arian.
Ymholiadau
- Byddwn yn ymateb i ymholiadau o fewn 20 diwrnod gwaith ac yn ateb pob cais am wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
- Byddwn yn ymrwymo i ddarparu safon gwasanaeth yr un mor uchel i'r cyhoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn unol â'r egwyddor o drin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal
Rheoliadau amgylcheddol
Cyrchu cyhoeddiadau
Hygyrchedd
- Byddwn yn darparu’r wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys CD electronig, CD awdio, Braille a phrint mawr os gwneir cais amdanynt.
- Byddwn yn ymgynghori â darparwyr AU a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr cydraddoldeb ac amrywiaeth, ar bolisïau sy’n gofyn am asesiad effaith llawn mewn perthynas â chydraddoldeb a byddwn yn ceisio rhoi o leiaf 6 wythnos iddynt i ymateb.
Nwyddau a gwasanaethau
- Byddwn yn talu pawb sy’n cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i CCAUC o fewn 10 diwrnod ar ôl derbyn anfoneb ddilys..
Gweithio gyda'r sector addysg uwch
- Byddwn yn cyhoeddi ein Grant Rheolaidd erbyn diwedd pob mis Mawrth ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.
- Byddwn yn talu cyllid wedi’i broffilio yn brydlon i’r sefydliadau.
- Byddwn yn ymateb i neu’n darparu adborth ar strategaethau’r sefydliadau o fewn 3 mis ar ôl eu derbyn.
- Byddwn yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn ymweld â phob sefydliad addysg uwch yng Nghymru bob blwyddyn.
- Byddwn yn cyfleu gwybodaeth o ddiddordeb ‘amserol’ yn rheolaidd drwy ein gwefan a dulliau eraill.
- Byddwn yn ymgynghori â darparwyr AU a rhanddeiliaid eraill ar benderfyniadau polisi mawr, a byddwn yn ceisio rhoi o leiaf 6 wythnos iddynt i ymateb.
- Byddwn yn nodi pwrpas ceisiadau a wnawn am wybodaeth i ddarparwyr AU.

